Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol
GIG Cymru

Dechreuodd Frank yn ei swydd fel Prif Swyddog Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru ym mis Awst 2016. 

Graddiodd Frank o Brifysgol Leeds gyda gradd feddygaeth a bu’n gweithio mewn swyddi mewn ysbytai a gofal sylfaenol ledled Gogledd Lloegr am nifer o flynyddoedd cyn dechrau ar waith gwirfoddol fel Swyddog Meddygol Ardal ym Malawi. Ar ôl dychwelyd i’r DU, cwblhaodd hyfforddiant arbenigol mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Rhanbarth Swydd Efrog, ac yna bu’n gweithio ar faterion iechyd a datblygu rhyngwladol ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd ac Adran Datblygu Ryngwladol y DU mewn sawl lleoliad gan gynnwys Iwgoslafia gynt, Tanzania a Bangladesh. O 2002 i 2012, roedd Frank yn gweithio fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Swydd Gaerhirfryn a rhwng 2008 a 2012 bu’n gweithio fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU (ADPH). Yn 2012, symudodd Frank i Ganada i ddechrau ar swydd fel Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd yn Adran Iechyd a Llesiant, Nova Scotia.