Lynne Neagle MS

Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles
Llywodraeth Cymru

Ganwyd Lynne Neagle ym Merthyr Tudful a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Phrifysgol Reading. 

Cyn ei hethol i’r Senedd yn 1999, bu Lynne yn gweithio mewn nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn gweithio i sefydliadau megis Shelter Cymru, Mind a CAB. Hi oedd Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd, a bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.  

Penodwyd Lynne yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles ar 13 Mai 2021.