Jan Williams

Cadeirydd
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Jan yw Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef y sefydliad yng Nghymru sy’n ymhél ag iechyd y cyhoedd, ac mae ganddi fwy na 41 mlynedd o brofiad yn gweithio fel uwch-swyddog gweithredol a swyddog anweithredol yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Jan arbenigedd penodol mewn “gwyddoniaeth wella” ac yn y meysydd ymchwilio, archwilio a rheoleiddio fel y maent yn berthnasol i greu gwelliannau mewn polisi ac ymarfer.

Mae wedi gweithio mewn nifer o uwch-swyddi ar lefel Ymddiriedolaethau’r GIG, Awdurdodau Iechyd a Byrddau Iechyd, yn genedlaethol ac yn Llywodraeth Cymru, a hefyd mewn swyddi annibynnol ar lefel y DU, Lloegr a Chymru.

Cyn iddi ddechrau gweithio yn ei rôl gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jan oedd Comisiynydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ar gyfer heddluoedd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Merswy.

Ar hyn o bryd mae Jan yn aelod o banel Sicrhau Ansawdd Gwaith Adolygu Lladdiadau Trais Domestig y Swyddfa Gartref ar gyfer Cymru a Lloegr, lle caiff Adolygiadau o Laddiadau Trais Domestig eu cynnal ledled y ddwy wlad, ac mae’n cynnig cyngor ynghylch yr hyn y gellir ei ddysgu yn y dyfodol mewn perthynas â pholisi ac ymarfer.