Mary-Ann McKibben

Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Mary-Ann yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn arwain ar waith lleoliadau iach y sefydliad, gan gynnwys yr agenda iechyd a gwaith a’r rhaglen Cymru Iach ar Waith sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr. Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Rhagfyr 2018, roedd hi’n arwain rhaglen lywodraethol yn Seland Newydd yn datblygu ymatebion amlasiantaethol i wella deilliannau iechyd, addysg a chyflogaeth i bobl ifanc.

Cyn Seland Newydd, roedd Mary-Ann yn Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd gyda GIG Swydd Wiltshire, yn gyfrifol am alcohol a chyffuriau, iechyd troseddwyr, diogelwch cymunedol ac iechyd meddwl a lles. Aeth Mary-Ann ar hyfforddiant iechyd y cyhoedd yn Ne-orllewin Lloegr ar ôl treulio 7 mlynedd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr elusen genedlaethol, Alcohol Concern, yn arwain gweithgareddau polisi a materion cyhoeddus yr elusen. Mae Mary-Ann yn Gymrawd yr Adran Iechyd y Cyhoedd, ac yn 2018 roedd hi’n gyd-enillydd Gwobr Pencampwr Iechyd y Cyhoedd Cymdeithas Iechyd Seland Newydd.