Sue O'Leary

Cyfarwyddwr
Mind Cymru

Mae Sue yn Gyfarwyddwr Mind Cymru ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Mind. Mae’n cadeirio Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, ynghyd â’r ymgyrch atal stigma, Amser i Newid Cymru. Fel Pennaeth Gweithrediadau Mind Cymru, bu Sue yn gweithio am 5 mlynedd ar arwain y gwaith o ddarparu rhaglenni, gan weithio gyda grwpiau Mind lleol a phartneriaid i gydgynhyrchu, treialu ac addasu modelau darparu gwasanaethau. Cyn iddi ddechrau gweithio yn y maes Iechyd Meddwl, roedd gan Sue gefndir yn y maes Cyfiawnder Troseddol, a bu’n gweithio mewn swyddi arwain yn y Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Prawf a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’n danbaid dros gydweithredu, arloesi a gwella mynediad at wasanaethau a chymorth effeithiol. Y tu allan i’w gwaith, mae Sue yn hoffi rhedeg, darllen, teithio’n ôl adref i Iwerddon, a bod yn fam i ddwy o enethod.