Holly MacDougall-Corbin

Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl
Llywodraeth Cymru

Mae gan Holly gefndir mewn gofal cymdeithasol. Mae ganddi sawl blwyddyn o brofiad o weithio â phobl anabl a difreintiedig, yn eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a gwytnwch. Ar ôl gweithio â phobl o bob mathau o gefndiroedd, mae gan Holly ddiddordeb brwd mewn cynwysoldeb i bawb. Mae Holly yn defnyddio ei chefndir personol a phroffesiynol i annog cynwysoldeb yn y gweithle, yn enwedig o ran cydnabod rhyngblethedd a hunaniaeth, Mae gan Holly gymwysterau mewn addysg, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad yn ogystal â sgiliau hwyluso sy’n ymwneud â Llesiant.

Symudodd Holly oddi wrth ofal cymdeithasol i’w rôl fel ‘hyrwyddwr cyflogaeth pobl anabl’ ar gyfer Llywodraeth Cymru ar ôl iddi ymddeol yn feddygol o waith cymorth rheng flaen yn ystod pandemig CV19. Fel DPEC, mae Holly yn gweithio â busnesau ledled Cymru i i hwyluso trafodaethau ynghylch Model Cymdeithasol Anabledd, cyflogi pobl anabl, cael gwared ar rwystrau i gynwysoldeb a mentrau llesiant holistig.