Amodau a thelerau

Rheolir Hotspot Economi Gylchol Cymru (Hotspot Cymru) gan Freshwater, ar ran Llywodraeth Cymru a Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) – ‘Ni’ o hyn ymlaen. Wrth gyflwyno’r ffurflen gofrestru hon, fe fyddwch chi, y defnyddiwr (‘Chi’), yn derbyn ein Hamodau a’n Telerau. Caiff y ffurflen gofrestru ei chynnal ar gyfer eich defnydd personol chi. Trwy gyrchu a defnyddio’r safle hwn, byddwch yn derbyn yr Amodau a’r Telerau hyn, a ddaw i rym o’r dyddiad defnyddio cyntaf.

Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data a Freshwater yw’r Prosesydd Data ar gyfer yr wybodaeth a gyflwynir ar ffurflen gofrestru Hotspot Cymru, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rennir neu unrhyw recordiadau a wneir yn ystod rhaglen y digwyddiad. Mae Llywodraeth Cymru a Freshwater wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru trwy e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu ag ef trwy e-bost: haydn.evans@freshwater.co.uk

 

Y broses gofrestru

I gofrestru ar gyfer cynhadledd Hotspot Cymru, bydd yn ofynnol ichi gofrestru ar blatfform y digwyddiad.

Mae cofrestriad safonol yn cynnwys y Derbyniad Croeso (dydd Llun 07 Hydref), holl sesiynau’r gynhadledd, yr arddangosfa, cinio a lluniaeth (dydd Mawrth 08 Hydref), yr ymweliadau safle, y Seremoni Gloi a’r digwyddiad Blas ar Gymru (dydd Mercher 09 Hydref).

Mae cofrestriad gyda Swper y Gynhadledd yn cynnwys yr elfennau uchod i gyd ynghyd â chofrestriad ar gyfer Swper y Gynhadledd a gynhelir nos Fawrth 08 Hydref.

 

Taliadau

Ffefrir cardiau credyd/debyd.

Os defnyddir Trosglwyddiad Banc, dylid talu o fewn pythefnos i ddyddiad yr anfoneb; os na wneir hyn, efallai y codir taliadau ychwanegol.

Rhaid i’r holl daliadau gael eu clirio cyn y Gynhadledd.

Dylid gwneud yr holl daliadau’n daladwy i Freshwater UK, gweler y manylion ar yr anfoneb.

 

Canslo

Mwy na 30 diwrnod o rybudd: ad-daliad o 25%

Llai na 30 diwrnod o rybudd: Dim ad-daliad

 

Enwebu dirprwy

Bydd modd i gynrychiolwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad enwebu cydweithiwr i fynychu yn eu lle. I wneud hyn, dylent gysylltu’n uniongyrchol â thîm y digwyddiad (bydd yn rhaid talu £25 + TAW am enwebu dirprwy).

 

 

Ffotograffau a Fideos

Trwy fynychu’r gynhadledd, byddwch yn rhoi caniatâd inni dynnu ffotograffau, gwneud recordiadau sain a gwneud recordiadau fideos, ynghyd â’u rhyddhau, eu cyhoeddi, eu harddangos neu eu hatgynhyrchu at ddibenion newyddion, gweddarllediadau, dibenion hyrwyddo, hysbysebu, i’w cynnwys ar wefannau neu ar y cyfryngau cymdeithasol, neu at unrhyw ddiben arall sydd gan bwyllgor trefnu Hotspot Cymru dan sylw. Efallai y bydd delweddau, ffotograffau a/neu fideos yn cael eu defnyddio i hyrwyddo digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Gall yr wybodaeth y bydd angen ei chyflwyno ar gyfer cofrestru ar un o ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich lleoliad, eich rhif ffôn, ac enw/manylion eich sefydliad. Yr unig adeg y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yw er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiadau rydych wedi cofrestru arnynt.

Sut y defnyddir eich gwybodaeth?

  • Optimeiddio ffurflen gofrestru Hotspot Cymru.

  • Monitro faint o bobl a fydd yn cofrestru ar ddigwyddiadau.

  • Monitro pa sefydliadau sy'n cyrchu'r Pecyn Cymorth Hyrwyddo.

  • Adrodd am anghenion deietegol ac anghenion mynediad ar gyfer y digwyddiadau.

  • Anfon e-byst atgoffa at bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiadau Hotspot Cymru.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael hysbysiadau trwy e-bost yn rhoi’r diweddaraf ichi am ddatblygiadau ac yn eich atgoffa am y digwyddiadau rydych wedi cofrestru arnynt. Yna, ar ôl y digwyddiad, byddwch yn cael ffurflen werthuso. Os nad ydych yn dymuno cael yr e-byst atgoffa hyn, cysylltwch â: hotspotcymru@freshwater.co.uk.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?

Mae’n angenrheidiol inni brosesu data ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd. Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i Lywodraeth Cymru roi polisi ymwneud ar waith.

 

Pwy fydd yn cael eich gwybodaeth?

Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer y data a gesglir trwy gyfrwng ffurflen gofrestru Hotspot Cymru. Hefyd, rydym yn defnyddio prosesyddion data trydydd parti, ac o’r herwydd mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda nhw. Bydd y gwaith o brosesu’r wybodaeth hon yn cyd-fynd â pholisi preifatrwydd y prosesyddion trydydd parti. Dyma’r prosesyddion trydydd parti a ddefnyddiwn:

 

Am ba hyd y cedwir eich gwybodaeth?

Dim ond cyhyd ag y bo angen y byddwn yn cadw eich data – hyd at 6 mis ar ôl y digwyddiad.

 

Beth yw eich hawliau unigol?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, hawl i wrthwynebu’r arfer o brosesu eich gwybodaeth bersonol, a hawl i gywiro, dileu, cyfyngu a chludo eich gwybodaeth bersonol. Os bydd unigolion yn dewis cymryd rhan yn y sesiynau byw, naill ai trwy gyfrwng swyddogaeth fideo neu swyddogaeth sgwrsio, byddant yn rhoi caniatâd inni gadw’r recordiadau ar gyfer ein cofnodion ac ar gyfer cyflawni amcanion y prosiect. Bydd modd i unigolion ofyn inni anfon eu data at ddarparwr arall; bydd unrhyw gais o’r fath yn cael ei ystyried pan fo modd ynysu’r data dan sylw heb dorri hawliau cyfranogwyr eraill.

Dylid anfon ceisiadau neu wrthwynebiadau’n ysgrifenedig at Swyddog Diogelu Data Freshwater: haydn.evans@freshwater.co.uk

 

Diogelwch eich gwybodaeth

Bydd yr holl wybodaeth a gyflwynwch yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.

Yn anffodus, nid tasg hollol ddiogel yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data a drosglwyddir ar ein safle; bydd unrhyw drosglwyddo o’r fath yn cael ei wneud ar eich menter chi eich hun. Ar ôl inni gael yr wybodaeth, byddwn yn defnyddio nodweddion diogelwch a gweithdrefnau llym i geisio atal unrhyw fynediad anawdurdodedig.

 

Cwcis

Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am ymddygiad ymwelwyr.

Tameidiau bach o wybodaeth a gaiff eu storio gan wefannau ar eich cyfrifiadur – dyna yw cwcis. Fel arfer, cânt eu defnyddio gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol ar sail ymddygiad pobl ar-lein.

Pan fydd rhywun yn ymweld â ffurflen gofrestru Hotspot Cymru, byddwn yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am yr ymweliad trwy gyfrwng cwcis. Gwnawn hyn er mwyn dod o hyd i batrymau ymddygiad cyffredinol, megis faint o bobl sy’n ymweld â’r safle. Oherwydd y ffordd y caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu, ni fydd modd adnabod neb yn bersonol. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ymdrech i ganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan ac ni fyddwn yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith.

 

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Fel y nodwyd eisoes, rydym yn defnyddio cwcis sy’n hanfodol ar gyfer rheoli ein gwasanaethau a’n gwefan, a byddant hefyd yn cyfoethogi eich profiad chi wrth bori. Isod, ceir rhagor o wybodaeth am y cwcis hyn. Ond os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r safle hwn y tu hwnt i’r fan hon, bydd hynny’n golygu eich bod yn derbyn cwcis gan y canlynol:

  • Eventscase am letya ffurflen gofrestru Hotspot Cymru.

  • Google Analytics er mwyn ein cynorthwyo i wella ac optimeiddio ffurflen gofrestru Hotspot Cymru.

 

Dolenni

Bydd y ffurflen gofrestru a’r e-byst dilynol yn cynnwys dolenni a fydd yn arwain at brif wefan Hotspot Economi Gylchol Cymru (https://hotspoteconomigylchol.cymru/). Os dilynwch ddolen at y wefan hon neu unrhyw ddolenni eraill, sylwer y gallai’r gwefannau hynny, ynghyd ag unrhyw wasanaeth y gellir ei gyrchu trwyddynt, feddu ar eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac na fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd dros y polisïau hynny na thros unrhyw ddata personol y gellir ei gasglu trwy’r gwefannau neu’r gwasanaethau hynny. Darllenwch y polisïau dan sylw cyn cyflwyno unrhyw ddata personol ar y gwefannau hynny a chyn defnyddio’r gwasanaethau.

 

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i archwilio a phrofi deunyddiau yn ystod pob cam. Mae hi wastad yn syniad da ichi ddefnyddio rhaglen gwrthfeirysau ar yr holl ddeunyddiau y byddwch wedi’u lawrlwytho oddi ar y Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golledion, trafferthion neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol, a all ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunyddiau a lawrlwythwyd oddi ar wefannau Llywodraeth Cymru.

 

Newidiadau i’n polisi

Bydd yr holl newidiadau a gyflwynwn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon, a phan fo’n briodol byddwch yn cael eich hysbysu trwy e- bost. Darllenwch y dudalen hon yn fynych er mwyn gweld diweddariadau neu newidiadau i’n polisi.

 

Ymwadiad

Darperir gwybodaeth gofrestru Hotspot Cymru (neu wybodaeth trydydd parti) ‘fel y mae’ heb unrhyw sylwadau neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig. Ni allwn warantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunyddiau ar y safle hwn yn ddi-dor neu’n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y safle hwn a’i weinydd yn rhydd o feirysau neu’n cynrychioli dibynadwyedd, cywirdeb a swyddogaethau llawn y deunyddiau.

Caiff yr Amodau a’r Telerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngol dros unrhyw anghydfod a fydd yn deillio o’r Amodau a’r Telerau hyn.

 

Sut i gwyno

Os ydych yn anfodlon â’r modd y proseswyd eich data personol, yn y lle cyntaf cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Freshwater trwy ddefnyddio’r manylion uchod.

Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon, mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma fanylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF (ico.org.uk)