Mae tîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn dymuno eich gwahodd i ddigwyddiad rhad ac am ddim i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rhoddwyd arian i bedwar o sefydliadau yng Nghymru ar gyfer cyflawni eu prosiectau unigryw yn Uganda a Lesotho er mwyn tynnu sylw at gydraddoldeb rhywiol a ffyrdd o rymuso menywod, gan weithio ar y cyd â’u partneriaid yn Affrica. Mae Hub Cymru Africa, sy’n gweithio ar draws y gymdeithas sifil gan ddwyn ynghyd elusennau, unigolion a sefydliadau o amgylch themâu sefydliadol craidd, wedi gweithio’n agos gydag arweinwyr y prosiect er mwyn esgor yn llwyddiannus ar effeithiau cynaliadwy, a bydd yn cyflwyno sylwadau treiddgar ynglŷn â pha mor bwysig yw cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol o amgylch y byd.
Cyflawnwyd gwaith gwirioneddol gyffrous a blaengar trwy gyfrwng pedwar prosiect, yn enwedig mewn meysydd yn ymwneud â bywoliaeth, trais ar sail rhywedd, hyrwyddo integreiddio rhywedd er mwyn sicrhau cyfiawnder hinsawdd, a chynorthwyo merched i bontio’n ôl yn ddiogel at addysg.
Gan fod y prosiectau bellach yn tynnu tua’u terfyn, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i glywed am y gwaith ysbrydoledig a gyflawnwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd yn agor y digwyddiad, a bydd yn dangos pam mae grymuso menywod mor bwysig iddi hi. Yna, byddwn yn cael cyflwyniadau gan y canlynol:
Benson Omoding – Cydgysylltydd Prosiect, Teams4U:
PROSIECT: Cynorthwyo merched agored i niwed yn Uganda i ddychwelyd at addysg – cynorthwyo merched i bontio’n ôl yn ddiogel i’r ysgol trwy ailadeiladu rhwydweithiau cymorth cryf yn y gymuned ac ymhlith cyfoedion er mwyn ymdrin â thabŵs yn ymwneud ag iechyd atgenhedlu (yn cynnwys cyfnodau mislif) ac arferion niweidiol cysylltiedig a waethygwyd gan y pandemig.
Janet Lowore – Rheolwr Rhaglen, Bees for Development:
PROSIECT: Mae gwragedd gweddw yn llwyddo’n well: ymdrin â’r rhwystrau sy’n wynebu gwragedd priod o ran elwa ar gadw gwenyn mewn byd a reolir gan ddynion yng ngogledd Uganda.
Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Maint Cymru:
PROSIECT: Gwersi a ddysgwyd: Ymdrin â chyfiawnder rhywedd a chyfiawnder hinsawdd yn Uganda. Mewn partneriaeth â’r Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE), yr International Tree Foundation (ITF) a’r Masaka District Landcare Chapter Leadership (MADLACC), sefydlodd Maint Cymru brosiect peilot ym mis Mawrth 2022 i hyrwyddo’r modd y gall menywod gymryd rhan mewn cyfiawnder hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol yn Uganda.
Hefyd, bydd cyswllt fideo i’w gael o Uganda gyda Lorna Alum, GESI a Swyddog Diogelu, METGE, ac aelod o grŵp menywod Bumaena.
Eiriolwr, Joanna Jonas – Cyfarwyddwr, Nairasha Legal Support
PROSIECT: Cryfhau’r Capasiti i Orfodi’r Gyfraith ar gyfer Ymateb i Drais ar sail Rhywedd yn Lesotho. Mae Nairasha Legal Support wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Dolen Cymru i gryfhau capasiti gweithredwyr plismona i ymateb i achosion o Drais ar sail Rhywedd yn Lesotho er mwyn cynyddu nifer yr achosion a adroddir yn yr hirdymor.
Bydd modd cofrestru o 9.30am. Darperir cinio am 12.30pm, a bydd hynny’n rhoi cyfle i bawb rwydweithio, cael golwg ar yr arddangosfeydd a siarad ag aelodau’r timau.
Os hoffech fynychu, cofrestrwch erbyn 24 Chwefror gan nodi eich enw, eich sefydliad (os yn berthnasol) ac unrhyw anghenion deietegol.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu neilltuo ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. Pe baech yn cofrestru ac yna’n methu mynychu, a wnewch chi roi gwybod inni cyn gynted â phosibl er mwyn inni allu rhoi eich lle i rywun sydd ar y rhestr aros.