La-Chun Lindsay

Gwasanaethau Gwe Amazon
Llysgennad Llywodraeth Cymru

Cafodd La-Chun ei geni a'i magu yn Rock Hill, De Carolina. Mynychodd Brifysgol Clemson a graddiodd yn 1995 gyda gradd B.S. mewn peirianneg cerameg.  Mae ganddi dair gradd doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol de Cymru a Phrifysgol Abertawe. 

Ar ôl graddio o Brifysgol Clemson, bu La-Chun mewn amrywiaeth o swyddi arweinyddol, peirianneg ac ymchwil a datblygiad gyda Llywodraeth yr UD a chwmnïau preifat cyn ymuno â General Electric (GE) Quartz yn Hydref 1997 lle'r oedd yn gweithio fel peiriannydd proses, gwregys gwyrdd tiwbio, gwregys du ansawdd cyflenwr a rheolwr Ffatri Brosesu Deunydd Crai.  Ymunodd â Staff Awdit Corfforaeth (SAC) GE ym Medi 2000, yn cynnal ac arwain archwiliadau ariannol, rheoliadol, cydymffurfiaeth, caffaeliad, gwarediad a masnachol.  Ei swydd ddiweddaraf gyda SAC oedd rheolwr awdit cydymffurfiaeth fyd-eang, rhagoriaeth fasnachol ac America Ladin.

Ym mis Mai 2007, ymunodd La-Chun â GE Capital i fod yn is-lywydd Grŵp Gwasanaethau Maes Cyllid Dosbarthu Masnachol, gan arwain tîm o 400 gweithwyr o bell.  Yn Ionawr 2014, ymunodd â GE Aviation fel Arweinydd Ffatri Gwasanaethau Adeiladu, Profi ac Archwilio Lynn lle y bu'n arwain tîm o 400 o weithwyr yn cynhyrchu a datblygu peiriannau i gwsmeriaid masnachol a milwrol GE Aviation.  Yn Ebrill 2015, daeth La-Chun yn Brif Weithredwr GE Aviation Cymru, safle archwilio peiriannau ac atgyweirio cydrannau byd-enwog.

Cyn ymuno â Gwasanaethau Gwe Amazon ym mis Mehefin 2020, roedd La-Chun yn brif weithredwr GE Aviation ar gyfer Cyflawniad Cwsmer lle'r oedd yn arwain tîm o wyddonwyr data, penseiri a pheirianwyr ynghyd ag arbenigwyr gwelliant, a wnaeth weithio ar y cyd i wella perfformiad darparu ar amser GE Aviation drwy ddatblygu dadansoddeg digidol i ddangos a rhagweld meysydd gwastraff ar draws y mapiau gwerth cynnyrch stem amrywiol.

Mae LA-Chun wedi bod yn eiriolwr dros amrywiaeth a chydraddoldeb ac mae wedi derbyn sawl anrhydedd byd-eang am ei hymdrechion.