Jane Hutt MS

Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol

Treuliodd ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economaidd Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers 1972.

Roedd Jane yn aelod etholedig o'r hen Gyngor Sir Morgannwg am 12 mlynedd a chafodd ei hethol i'r Cynulliad yn 1999. Rhwng 1999 a 2005 gwasanaethodd fel Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. O 2005 hyd at 2007, hi oedd Y Trefnydd a Phrif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad cafodd ei hapwyntio yn Weinidog dros Gyllid a Busnes y Cynulliad.

Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, daeth yn Weinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Yn Rhagfyr 2009 fe'i penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, ac yna Y Gweinidog Cyllid tan 2016 pan gafodd ei phenodi yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.

Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Jane yn Ddirprwy Weinidog a Phrif Chwip. Cafodd Jane ei phenodi yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.

Mae Jane Hutt yn gymrodyr anrhydeddus o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro. Mae hi'n dysgu Cymraeg.