Shereen Williams

Prif Weithredwr
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC)

MBE OStJ DL yw Prif Weithredwr presennol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC) ac Ysgrifenyddes Comisiwn Ffiniau i Gymru (CFfG). Yn ddiweddar fe wnaeth hi arwain ar gwblhau'r rhaglen adolygiad etholiadol Cymru gyfan a arweiniodd at y newidiadau mwyaf yn nhrefniadaeth etholiadol llywodraeth leol ers dros 20 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Adolygiad Etholaethol Seneddol a fydd yn lleihau'r nifer o AS yng Nghymru i 32. 

Cyn hyn, roedd yn gweithio mewn llywodraeth leol ar hyd Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy am yn agos i ddegawd fel Rheolwr Cysylltu Cymunedau a hi oedd yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys Ymfudo, Rhwystro Eithafiaeth Dreisgar, Cydraddoldeb a Chydlyniad Cymunedol. 

Ers symud o Singapore yn 2005, mae wedi gwirfoddoli mewn sawl swydd yn y Trydydd Sector yn ogystal â chyrff statudol. Mae Shereen yn ynad ar Fainc Gwent ar hyn o bryd ac yn llywodraethwr ar ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Yn fwy diweddar, o ganlyniad i'r swm hurt o amser mae'n ei dreulio yn y clwb rygbi lle mae ei dau fab yn chwarae, mae hi'n Drysorydd Cynorthwyol Pwyllgor y rhai Iau a Ieuengach yno.