Siwan Lillicrap

Capten
Tîm Rygbi Menywod Cymru

Siwan Lillicrap yw Capten tîm Rygbi Menywod Cymru ac yn ddiweddar mae wedi dod yn un o chwaraewyr proffesiynol benywaidd cyntaf Cymru. Yn ddiweddar chwaraeodd Siwan ran allweddol wrth gynorthwyo Undeb Rygbi Cymru (URC) i newid statws Rygbi Menywod yng Nghymru trwy gytundebau proffesiynol a rhan amser. Roedd Siwan hefyd yn gyfrannwr mawr at yr adolygiad annibynnol a gweithiodd yn agos gydag uwch reolwyr URC i lunio dyfodol cadarnhaol i Fenywod Cymru.

Enillodd Siwan ei Chap cyntaf dros Gymru ym mis Chwefror 2016 yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod, ac mae ganddi bellach 40 cap dros Gymru a chafodd ei henwi’n gapten Cymru yn Ymgyrch yr Hydref 2019.

Cyn iddi ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol gyda chontract, roedd Siwan yn Bennaeth Rygbi ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy gydol ei 5 mlynedd yn y swydd arweiniodd newid cadarnhaol i’r rhaglen a gwelodd ddyrchafiadau i’r uwch gynghrair a’r gynghrair Super Rugby, mwy o gyfranogiad a gweithrediad llwyddiannus rhaglen perfformiad uchel. Cyn hyn, gweithiodd Siwan mewn amrywiol swyddi Chwaraeon, ond Rygbi Perfformiad Uchel yw ei hangerdd.

Magwyd Siwan yn Abertawe ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Aeth i Ysgol Gynradd Login Fach ac yna i Ysgol Gyfun Gŵyr cyn mynd ymlaen i astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl iddi raddio, cafodd Siwan ei hethol yn Llywydd yr Undeb Athletaidd am 2 flynedd yn olynol.

Yn ei swydd newydd fel un o’r chwaraewyr rygbi proffesiynol Cymreig cyntaf i gael cytundeb proffesiynol, mae Siwan a’i chyd-chwaraewyr yn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod a Chwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddarach eleni.