Y Fonesig Menna Rawlings DCMG

Llysgennad Prydeinig Ffrainc

Penodwyd Menna Rawlings yn Llysgennad ei Mawrhydi i'r Weriniaeth Ffrengig ym mis Awst 2021.

Cyn hynny, roedd Menna yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Materion Economaidd a Byd-eang yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad o fis Mawrth 2019 hyd at fis Awst 2020. O fewn y swydd hon, roedd ganddi gyfrifoldeb dros Brydain Fyd-eang, Asia a'r Môr Tawel, America, Affrica, Tiriogaethau Tramor, y Gymanwlad a Diplomyddiaeth Economaidd. Roedd hi hefyd yn hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant ar lefel Bwrdd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Ymunodd Menna â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym 1989, ac mae wedi gwasanaethu mewn amrywiaeth eang o swyddi o fewn y Gwasanaeth Diplomyddol. Yn fwyaf diweddar, bu Menna yn Uchel Gomisiynydd Prydain i Awstralia, a hynny o fis Ebrill 2015 hyd at fis Chwefror 2019. Dramor, mae hi wedi gweithio yn Washington DC, Accra, Tel Aviv, Nairobi a Brwsel. Yn Llundain, mae hi wedi bod yn rhan o Fwrdd Rheoli'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, yn Ysgrifennydd Preifat i'r Is-ysgrifennydd Parhaus yn Swyddfa'r Wasg, ac yng Nghyfarwyddiaeth Affrica a'r Undeb Ewropeaidd.

Cwblhaodd Menna radd BSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol Economeg Llundain, a MBA yn y Brifysgol Agored. Dyfarnwyd Urdd Sant Mihangel a San Siôr i Menna yn 2014.

Mae Menna yn briod, ac mae ganddi 3 o blant.