Mae ein cynhadledd masnach ryngwladol, Archwilio Allforio Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025.

  • Caerdydd - 13 Mawrth
  • Llandudno - 20 Mawrth

 

Os yw eich busnes yn allforio neu os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu dramor, ac yn dymuno cael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cofrestrwch ar gyfer ein cynhadledd!

Lle bynnag rydych chi ar eich taith allforio, mae Archwilio Allforio Cymru yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â’i gilydd; cewch y newyddion a chyngor diweddaraf ynghylch allforio; siarad â sefydliadau cefnogi; cael golwg ar gyfleoedd tramor; a darganfod offer i wneud eich busnes allforio yn fwy effeithiol.

Prif elfennau’r diwrnod:

  • Prif sesiwn - bydd busnesau sydd â phrofiad yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd.
  • Un-i-un gyda chynrychiolwyr marchnad tramor - gall mynychwyr gael sesiwn gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i gael cipolwg ar gyfleoedd allforio.
  • Arddangosfa - bydd sefydliadau cefnogi o ar draws ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg ar gael i gynorthwyo eich busnes.
  • Parth Allforio Llywodraeth Cymru - cewch gyfarfod ein Hymgynghorwyr Masnach Ryngwladol a chael golwg ar ein hoffer cefnogi digidol.
  • Gweithdai allforio - cyfres o sgyrsiau sy’n benodol ar gyfer darparu’r wybodaeth allweddol ddiweddaraf a chyngor ar fasnach ryngwladol.