Mae ein cynhadledd masnach ryngwladol, Archwilio Allforio Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2025.
Os yw eich busnes yn allforio neu os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu dramor, ac yn dymuno cael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, cofrestrwch ar gyfer ein cynhadledd!
Lle bynnag rydych chi ar eich taith allforio, mae Archwilio Allforio Cymru yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â’i gilydd; cewch y newyddion a chyngor diweddaraf ynghylch allforio; siarad â sefydliadau cefnogi; cael golwg ar gyfleoedd tramor; a darganfod offer i wneud eich busnes allforio yn fwy effeithiol.
Prif elfennau’r diwrnod:
- Prif sesiwn - bydd busnesau sydd â phrofiad yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd.
- Un-i-un gyda chynrychiolwyr marchnad tramor - gall mynychwyr gael sesiwn gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i gael cipolwg ar gyfleoedd allforio.
- Arddangosfa - bydd sefydliadau cefnogi o ar draws ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg ar gael i gynorthwyo eich busnes.
- Parth Allforio Llywodraeth Cymru - cewch gyfarfod ein Hymgynghorwyr Masnach Ryngwladol a chael golwg ar ein hoffer cefnogi digidol.
- Gweithdai allforio - cyfres o sgyrsiau sy’n benodol ar gyfer darparu’r wybodaeth allweddol ddiweddaraf a chyngor ar fasnach ryngwladol.