Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi dyddiadau ei chynhadledd allforio flynyddol, sef 14 Mawrth 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a 21 Mawrth 2024 yn y Village Hotel St David’s, Glannau Dyfrdwy.
Bydd y dyddiau’n canolbwyntio ar fanteision allforio ar gyfer busnesau yng Nghymru, gan roi cyfle i gwmnïau yng Nghymru archwilio cyfleoedd mewn marchnadoedd penodol, gweithdrefnau allforio a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi. Bydd partneriaid allweddol yn bresennol er mwyn rhannu profiadau o gefnogi allforwyr ac ystyried cyfleoedd i fireinio ein cymorth fel ei fod yn diwallu anghenion nawr ac yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
Sesiynau unigol gyda chynrychiolwyr marchnadoedd tramor - gall mynychwyr gwrdd â chynrychiolwyr ac arbenigwyr o nifer o farchnadoedd tramor er mwyn archwilio cyfleoedd allforio.
Seminarau allforio - ystod o sgyrsiau cryno yn darparu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar elfennau pwysicaf masnach ryngwladol.
Arddangosfa - bydd sefydliadau cymorth o bob rhan o ecosystem allforio Cymru - gan gynnwys y sectorau cyllid, cyfreithiol a logisteg - ar gael i drafod sut y gallant gynorthwyo eich busnes.
Parth Allforio Llywodraeth Cymru - cewch archwilio ein hadnoddau cymorth digidol a chwrdd â’n Cynghorwyr Masnach Ryngwladol.