Mae’r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i lwyfan digwyddiad Archwilio Allforio Cymru , yn benodol: https://freshwater.eventscase.com/CY/ExploreExportWales2024South a’i is-dudalennau.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Freshwater ar y llwyfan Eventscase. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylai defnyddwyr allu:
· llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
· gwneud defnydd o’r testun amgen ar gyfer delweddau drwy ddefnyddio darllenydd sgrin
· gwneud defnydd o ddogfennau PDF drwy ddefnyddio meddalwedd darllenydd sgrin
· gwneud defnydd o gapsiynau ar y fideo
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch, er gallai hynny newid yn y dyfodol gyda rhagor o ddiweddariadau ar y llwyfan Eventscase. Er enghraifft, nid yw’n bosibl ar hyn o bryd i:
· newid lliwiau, lefelau'r cyferbyniad a ffontiau
· newid uchder y llinell neu’r bylchau rhwng testun
· llywio gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
Os hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
Ebostiwch: charlotte.homa@freshwater.co.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 2 dddiwrnod.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau sydd ddim wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn cwrdd â’n disgwyliadau hygyrchedd, cysylltwch:
Ebostiwch: charlotte.homa@freshwater.co.uk
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Freshwater wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol:
· Nid yw hi’n bosibl i’r defnyddiwr i newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau na newid uchder y llinellau neu’r bylchau rhwng y testun ar wefan lansio Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022-2030, mae hwn yn groeso i Egwyddor 1 WCAG 2.1: P - Perceivable/Canfyddadwy Mae llwyfan y digwyddiad, Eventscase, yn adolygu pa ddatblygiad sydd ei angen i alluogi defnyddwyr i newid y ffontiau a’r testun.
· Mae’n bosibl newydd y bysellfwrdd i lywio’r wefan, ond nid oes posib newid lliw o’r ddewislen a ddewiswyd. Dangosir yr eitem a ddewiswyd yn y newid o URL ar waelod y dudalen, ac mae’n groeso i Egwyddor 2 WCAG 2.1: O - Operable/Ymarferol Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw hi’ bosibl i’r defnyddiwr chwyddo mewn i 200% neu 400% heb i’r cynnwys lithro oddi ar y dudalen. Mae hyn yn groes i WCAG Lefel AA 2.1: Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid oes gan yr eiconau bychain ar y wefan opsiwn testun arall. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chynnwys Di-Destun WCAG Lefel A 2.1:1.1.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid oes gan y ffurfiau testun ar y wefan labeli testun cysylltiedig. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chynnwys Di-Destun WCAG Lefel A 2.1:1.1.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw’r dolenni cysylltiedig wedi eu grwpio gan ddefnyddio’r elfen lywio ar y dudalen Fy Nghyfrif a’r adran pennawd uchaf o lwyfan y prif ddigwyddiad. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Gwybodaeth a Pherthnasau WCAG Lefel A 2.1:1.3.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw rhannau o’r dudalen wedi eu nodi gyda thirnodau ARIA. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Gwybodaeth a Pherthnasau WCAG Lefel A 2.1:1.3.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw’r cod y tu cefn i’r dudalen gyda’r nodyn semantig yn cael ei ddefnyddio’n briodol ar gyfer penawdau o fewn y dudalen Gyfrif o ddefnyddwyr. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Gwybodaeth a Pherthnasau WCAG Lefel A 2.1:1.3.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Cyfathrebir y wybodaeth drwy liw yn unig. Disgwylir na fydd unrhyw wybodaeth ar y dudalen yn cael ei chyfleu gan liw yn unig. Ar draws y gwefannau, nodir unrhyw wallau ffurf gan liw. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Defnydd o Liw WCAG Lefel A 2.1:1.4.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw disgrifiadau testun gwallus disgrifiadol yn cael eu darparu ar gyfer meysydd ffurflen i ddynodi pa faes sy’n anghywir wrth gael ei adael yn wag. Nid yw hyn yn cydymffurfio ag Adnabod Gwall WCAG Lefel A 2.1:3.3.1. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid yw’r meysydd ffurf angenrheidiol/penodol yn darparu ychydig o wybodaeth yn y label cysylltiedig na’r nodwedd teitl i ddynodi’r ffurf angenrheidiol/penodol. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Labeli neu Gyfarwyddiadau WCAG Lefel A 2.1:3.3.2. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· O fewn adrannau o adran “Fy Nghyfrif” o’r llwyfan, nid oes gan y testun ddigon o gyferbyniad yn erbyn ei gefndir. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chyferbyniad (Lleiafswm) WCAG Lefel AA 2.1:1.4.3. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Nid oes CTA ‘Symud Ymlaen i’r Prif Gynnwys’ ar gael ar dudalennau’r wefan ac mae strwythur y pennawd yn anghywir ar dudalennau Cofrestru Digwyddiad a Fy Nghyfrif o’r wefan. Nid yw hyn yn cydymffurfio ag WCAG Lefel A 2.1: Rhwystradau Gwyro 2.4.1 Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· Mae cynnwys rhestr y tab ar y wefan yn ddryslyd ac yn anghyson ar amryw o’r tudalennau’r wefan. Nid yw hyn yn cydymffurfio ag WCAG Lefel A 2.1: Trefn Ffocws 2.4.3. Mae’r swyddogaeth hon yn cael ei hadolygu hefyd gan Eventsbrite.
· O fewn y llwyfan, mae delweddau sy’n cynnwys testun yn bresennol, ac er bod testun amgen yn y rhan helaeth o’r rhain, nid oes modd i wylwyr eu defnyddio. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Delweddau Testun WCAG Lefel AA 2.1:1.4.5. Mae llwyfan y digwyddiad, Eventscase, yn adolygu pa ddatblygiad sydd ei angen i alluogi defnyddwyr i newid y ffontiau a’r testun.
· Mae gwallau HTML yn cael eu harsylwi yn y codio y tu cefn i’r tudalennau. Nid yw hyn yn cydymffurfio ag WCAG Lefel A 2.1: 4.1.1 Dosbarthu Mae llwyfan y digwyddiad, Eventscase, yn adolygu pa ddatblygiad sydd ei angen i alluogi defnyddwyr i newid y ffontiau a’r testun.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 23.12.2022