Allforio Cymru 2027

De Cymru (Stadiwm Dinas Caerdydd) - dydd lau 15 Ebrill 2027

Gogledd Cymru (Llandudno, Venue Cymru) - dydd Gwener 21 Ebrill 2027

Ymunwch â chynhadledd allforio flaenllaw Cymru a chysylltwch ag allforwyr newydd a phrofiadol, arbenigwyr masnach ryngwladol, partneriaid cyflenwi allweddol, banciau a darparwyr gwasanaethau proffesiynol. Manteisiwch ar gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a bwciwch gyfarfodydd un-i-un gydag arbenigwyr marchnad sy'n cwmpasu rhanbarthau allweddol gan gynnwys y Dwyrain Canol, Asia, Ewrop, Ffrainc, yr Almaen, India, UDA, De America a mwy.

Bydd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o seminarau a gweithdai ymarferol a gynlluniwyd i helpu busnesau i dyfu'n rhyngwladol, archwilio marchnadoedd newydd a chryfhau eu galluoedd allforio.

Cofrestrwch eich diddordeb isod i gael diweddariadau blaenoriaeth a mynediad cynnar at archebu sesiynau a chyfarfodydd un-i-un pan fydd cofrestru'n agor ym mis Ionawr.​


Gweld telerau ac amodau

Cyflwyno