Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi dyddiadau ei chynhadledd allforio flynyddol, sef  14 Mawrth 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a 21 Mawrth 2024 yn y Village Hotel St David’s, Glannau Dyfrdwy. 

Bydd y dyddiau’n canolbwyntio ar fanteision allforio ar gyfer busnesau yng Nghymru, gan roi cyfle i gwmnïau yng Nghymru archwilio cyfleoedd  mewn marchnadoedd penodol, gweithdrefnau allforio a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi. Bydd partneriaid allweddol yn bresennol er mwyn rhannu profiadau o gefnogi allforwyr ac ystyried cyfleoedd i fireinio ein cymorth fel ei fod yn diwallu anghenion nawr ac yn y dyfodol. 

 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

Sesiynau unigol gyda chynrychiolwyr marchnadoedd tramor - gall mynychwyr gwrdd â chynrychiolwyr ac arbenigwyr o nifer o farchnadoedd tramor er mwyn archwilio cyfleoedd allforio. 

Seminarau allforio - ystod o sgyrsiau cryno yn darparu’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar elfennau pwysicaf masnach ryngwladol. 

Arddangosfa - bydd sefydliadau cymorth o bob rhan o ecosystem  allforio Cymru - gan gynnwys y sectorau cyllid, cyfreithiol a logisteg - ar gael i drafod sut y gallant gynorthwyo eich busnes. 

Parth Allforio Llywodraeth Cymru - cewch archwilio ein hadnoddau cymorth digidol a chwrdd â’n Cynghorwyr Masnach Ryngwladol.

 

 

Hygyrchedd                Cwcis                 Datganiad hawlfraint                 Polisi preifatrwydd gwefan               Telerau ac amodau

ExploreExportWales@freshwater.co.uk