Chwalu’r Rhagfarn – Diwrnod Rhyngwladol Merched 2022

 

Ar ddydd Mawrth, 8 Mawrth, daeth Llywodraeth Cymru â phanel o ferched ysbrydoledig â chysylltiad cryf â Chymru ynghyd. Mae’r rhain yn ferched sydd wedi cael dylanwad yn rhyngwladol drwy gydol eu gyrfaoedd ac wedi chwalu’r rhagfarn er mwyn llwyddo.

Agorwyd y digwyddiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, a leisiodd ein huchelgais i greu Cymru sy’n sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Cymru lle mae merched, dynion a phobl anneuaidd yn cael eu trin yn gyfatal ac yn deg ym mhob agwedd o’u bywyd.

Fe wnaeth Shereen Williams MBE, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac ymgyrchydd cymunedol, gadeirio trafodaeth gyda’n panel ynghylch eu profiadau, gan ystyried gwahanol heriau, rhwystrau a rhagfarn y gwnaethant eu hwynebu yn ystod eu gyrfaoedd arbennig.

Diolch ichi am gymryd rhan, gwrando ar eu hanesion a chael eich ysbrydoli i #ChwaluRhagfarn. I wylio’r digwyddiad eto, ewch i’r dudalen ‘ar alw’ drwy glicio yma.