Bydd y Sgwrs Genedlaethol yma yn Haf 2024 yn canolbwyntio ar y cyfleoedd, yr heriau a goblygiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Addysg yng Nghymru.

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn bwnc llosg mewn sgyrsiau ar hyd a lled y byd – ac mae ei botensial i newid addysg  yn rhan allweddol o hynny. O'r addewid o fentergarwch ac effeithlonrwydd er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau, i'r ystyriaethau real iawn ynghylch preifatrwydd, rhagfarn, a lles, mae tŵls AI yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ffordd rydym ni'n dysgu, gweithio a byw.

Bydd y Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a'r heriau arbennig sy'n cael eu creu gan dŵls deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Bydd yn darparu fforwm ar gyfer ymarferwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn trafod ac ystyried goblygiadau'r tŵls yma i'w gwaith eu hunain ac yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r sgwrs wedi’i hanelu at arweinwyr ysgol, ymarferwyr, llywodraethwyr a staff cymorth sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael effaith gynyddol  ar y system addysg.

Rhaglen y Digwyddiad

  Amser

Rhaglen (noder, gallai amseroedd newid)

9:00

Cofrestru, te/coffi a rhwydweithio

10:00

Croeso a throsolwg o’r digwyddiad

10:45

Prif siaradwr

11:15

Egwyl y bore

11:45

Sesiwn grwpiau 1

12:45

Cinio

13:15

Sesiwn grwpiau 2

14:30

Adborth a thrafodaeth banel

15:15

Sylwadau clo

 

 

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2024

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis

Cefnogwyd gan Freshwater