Bydd y Sgwrs Genedlaethol yma yn Haf 2024 yn canolbwyntio ar y cyfleoedd, yr heriau a goblygiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Addysg yng Nghymru.
Mae Deallusrwydd Artiffisial yn bwnc llosg mewn sgyrsiau ar hyd a lled y byd – ac mae ei botensial i newid addysg yn rhan allweddol o hynny. O'r addewid o fentergarwch ac effeithlonrwydd er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau, i'r ystyriaethau real iawn ynghylch preifatrwydd, rhagfarn, a lles, mae tŵls AI yn debygol o gael effaith sylweddol ar y ffordd rydym ni'n dysgu, gweithio a byw.
Bydd y Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a'r heriau arbennig sy'n cael eu creu gan dŵls deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Bydd yn darparu fforwm ar gyfer ymarferwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn trafod ac ystyried goblygiadau'r tŵls yma i'w gwaith eu hunain ac yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r sgwrs wedi’i hanelu at arweinwyr ysgol, ymarferwyr, llywodraethwyr a staff cymorth sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael effaith gynyddol ar y system addysg.
Amser |
Rhaglen (noder, gallai amseroedd newid) |
---|---|
9:00 |
Cofrestru, te/coffi a rhwydweithio |
10:00 |
Croeso a throsolwg o’r digwyddiad |
10:45 |
Prif siaradwr |
11:15 |
Egwyl y bore |
11:45 |
Sesiwn grwpiau 1 |
12:45 |
Cinio |
13:15 |
Sesiwn grwpiau 2 |
14:30 |
Adborth a thrafodaeth banel |
15:15 |
Sylwadau clo |
Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol
Llywodraeth Cymru © 2024
Cefnogwyd gan Freshwater