Sgwrs y Rhwydwaith Cenedlaethol Gwanwyn 2024: Tegwch a chynwysoldeb

Dydd Mawrth 23 Ebrill 9:15yb – 12.30yp

Bydd y Sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol arlein hon yn canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr i ystyried sut mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gallu cefnogi tegwch a chynwysoldeb - goresgyn y rhwystrau sy’n gallu cyfyngu cynnydd dysgwyr, a sicrhau bod addysg bob unigolyn yn cael ei hystyried yr un mor bwysig drwy gydol y continwwm 3-16.

Bydd yn rhoi cyfle i chi:

  • Trafod beth mae tegwch a chynwysoldeb yn ei olygu i chi, eich ysgol/lleoliad a beth maen nhw'n ei olygu i'ch cwricwlwm.

  • Trafod trefnu a chynllunio, dysgu ac addysgu sy'n cefnogi tegwch a chynwysoldeb.

  • Rhannu eich dulliau chi o sicrhau bod eich cwricwlwm yn diwallu anghenion pob dysgwr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, blant sy'n byw mewn tlodi, dysgwyr ag ADY, dysgwyr niwrowahanol, dysgwyr mwy abl a thalentog, plant â phrofiad o’r system gofal, gofalwyr ifanc, plant sy'n profi anghysondeb yn eu haddysg, plant o grwpiau ethnig lleiafrifol gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, plant â Saesneg/Cymraeg fel iaith ychwanegol,  a phlant anabl.

  • Siarad am gefnogaeth ychwanegol gallai helpu gwella tegwch a chynwysoldeb yn eich ysgol/lleoliad.


Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad yma.  Yna cewch nodyn atgoffa awtomataidd i'ch calendr ar gyfer Dydd Mawrth 23 Ebrill 9:15yb – 12.30yp.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld ar y 23ain!

 

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2024

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis

Cefnogwyd gan Freshwater