Lawrlwythwch sleidiau’r cyflwyniad o’r digwyddiad drwy glicio yma
Lawrlwythwch yma >
Ariannwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu adnoddau i gefnogi’r gwaith o adnabod dysgwyr a chanddynt gyfrifoldebau gofalu a’u cynorthwyo gyda’u cyrhaeddiad a’u llesiant.
Mae’r casgliad o adnoddau diddorol a hygyrch ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn cynnwys cynlluniau gwersi a thaflenni gwaith a ffeithlenni i’w hargraffu. Cawsant eu datblygu i fod yn gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
Pwrpas y llyfryn hwn ar gyfer athrawon a staff ysgolion yw eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau y mae plant a phobl ifanc a chanddynt gyfrifoldebau gofalu yn eu hwynebu a sut orau y gellir eu cefnogi mewn amgylchedd addysgol. Bydd hefyd yn cyflwyno model y cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc a beth all hyn ei olygu i’ch ysgol a’ch dysgwyr.
Mae’r CAGI, neu’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, yn gerdyn syml i helpu gweithwyr proffesiynol yn cynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i’w hadnabod a’u cefnogi’n briodol.
Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol
Llywodraeth Cymru © 2024
Cefnogwyd gan Freshwater