Venue Cymru, Promenade, Llandudno, LL30 1BB
What Three Words: civic.lifeboats.brave (https://what3words.com/civic.lifeboats.brave)
Bydd modd i chi gofrestru o 08:30 o'r gloch, a bydd y digwyddiad yn dechrau am 09:00. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd am 08:30 er mwyn caniatáu digon o amser i nôl eich bathodyn enw a chael eich sedd cyn i'r gynhadledd ddechrau.
Gallwch ddod o hyd i ni drwy chwilio am ein cod post LL30 1BB.
Mae Venue Cymru 4 milltir i ffwrdd o’r A55 ac yn cymryd tua 8 munud yn y car, gan gynnig mynediad o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a thu hwnt ar yr M62/M56. O Gyffordd 19 o’r A55, dilynwch yr arwyddion i Landudno a chymerwch yr A470 (Ffordd y Cymry Brenhinol), yna dilynwch yr arwyddion ffordd brown ar gyfer Venue Cymru.
Mae gan Venue Cymru beiriant Talu ac Arddangos yng nghefn yr adeilad, gyda llefydd parcio i’r anabl i’r chwith o’r brif fynedfa. Gellir parcio ar y Promenâd hefyd ac mae yna beiriant Talu ac Arddangos yno hefyd tan 4pm, yna bydd yn rhad ac am ddim.
-----------------------------------------------------------------
Mae’n rhaid i unigolion sydd â bathodyn glas dalu oni bai eu bod nhw wedi parcio mewn man parcio i bobl anabl.
Gallwch dalu am barcio drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn neu drwy ddefnyddio’r ap parcio PayByPhone. Gallwch lawrlwytho’r ap yma - https://paybyphone.co.uk. Os byddwch chi’n defnyddio’r ap yma, mae’n rhaid i chi greu cyfrif, a rhif y maes parcio ydi 804457.
-----------------------------------------------------------------
Rhaid talu o 10am - 4pm
Y Gaeaf: 1 Hydref 2023 - 30 Ebrill 2024
Unigolion sydd â bathodyn glas: Am ddim | Gwaherddir Carafanau Modur rhwng 11pm - 8am
Gallwch ddod o hyd i feysydd parcio Talu ac Arddangos ychwanegol yn Llandudno yma: https://bit.ly/2t50JZp
Mae sawl gwasanaeth bws yn mynd heibio cefn Venue Cymru (o flaen y maes parcio):
12 – Gorsaf Bws y Rhyl – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 10 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul.
5 / X5 – Bangor – Gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg bob tua 20 munud tan 6pm, yna bob tua 60 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul.
X1 – Blaenau Ffestiniog – drwy Lanrwst a Betws-y-Coed - Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 60 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn. Gwasanaeth yn rhedeg bob tua 3 awr ar ddydd Sul.
Am fwy o wybodaeth ar wasanaethau bysus Llandudno, cliciwch yma.
Mae Venue Cymru tua 10 munud o daith cerdded o orsaf drên Llandudno (Prif Lein Arfordir y Gorllewin) a Chanol Tref Llandudno.
Os ydych yn gadael gorsaf Llandudno, trowch i’r chwith a dilyn Vaughan Street, a pharhau i Mostyn Broadway O yma, parhewch i lawr Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar y chwith, heibio Canolfan Nofio Llandudno.
Na, digwyddiad wyneb yn wyneb yn unig yw hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at ExploreExportWales@freshwater.co.uk