Pa bryd bydd modd cofrestru?

Bydd modd i chi gofrestru o 08:30 o'r gloch, a bydd y digwyddiad yn dechrau am 09:00. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd am 08:30 er mwyn caniatáu digon o amser i nôl eich bathodyn enw a chael eich sedd cyn i'r gynhadledd ddechrau.

Sut i gyrraedd y lleoliad?

Cyfeiriadau ffordd:

Gyrru o'r dwyrain Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.

Gyrru o'r gorllewin:

Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y trydydd troad ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.

Parcio:

Mae'r prif faes parcio wedi'i leoli ym Maes Parcio Stadiwm Dinas Caerdydd, Lleoliad C a D, gyferbyn â'r Sand Martin.

Mae parcio ar gael am ddim yma.

Mae lle parcio am ddim ar y safle ar gael ar gyfer hyd at 1,200 o geir yn y Clwb Pêl-droed Mae Cwestiynau Cyffredin am y lleoliad i'w gweld yma: https://cardiffcityconferenceandevents.co.uk/about-us/faq-s/

Cyfeiriadau bws:

Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg i Stadiwm Dinas Caerdydd o Orsaf Fysiau Caerdydd Canolog. Mae bysiau rhif 1, 8, 95, X91, X1 a 95B yn stopio gerllaw, y gwasanaethau mwyaf uniongyrchol yw 1, 2, 4, 95A, 95B a 95C. Cysylltwch â Cardiff Bus am ragor o wybodaeth.

Cyfeiriadau trên:

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn daith dacsi ddwy filltir o hyd o orsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae trenau’n teithio’n rheolaidd i Paddington Llundain, Reading, Swindon, Bryste, Portsmouth, Southampton, Weymouth a gorllewin Cymru, gyda chysylltiadau rhwydd i'r rhan fwyaf o ardaloedd y DU. Cysylltwch â National Rail am ragor o wybodaeth.

A allaf i fynychu'r gynhadledd yn rhithiol?

Na, digwyddiad wyneb yn wyneb yn unig yw hwn.

Cyfrinair WiFi y Lleoliad:

 

Lefel 3 Ricoh Suite

Enw'r rhwydwaith: RICOH

Cyfrinair: RICOHSUITE

 

Lefel 4 Premier Lounge

Enw'r rhwydwaith: PREMIER LOUNGE

Cyfrinair: CCFC2024

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at ExploreExportWales@freshwater.co.uk

           ______________________________________________________________________________________________

             

 Hygyrchedd               Cwcis               Datganiad hawlfraint              Polisi preifatrwydd gwefan              Telerau ac amodau

ExploreExportWales@freshwater.co.uk