Bydd y sesiwn yn helpu busnesau o Gymru, sydd un ai’n allforio ar hyn o bryd neu sydd â diddordeb mewn allforio, drwy roi trosolwg iddynt o’r ystod o gymorth sydd ar gael iddynt drwy Gynllun Gweithredu ar gyfer Allforio Llywodraeth Cymru.
Mae yna nifer fawr o sianeli dosbarthu sydd ar gael i’r Allforiwr posib, gyda nifer ohonynt yn rhai nad ydynt yn cael eu harchwilio’n llawn cyn penderfynu ar lwybr terfynol. Yn y sesiwn hon byddwn yn cymryd golwg ar yr holl lwybrau posibl, gan gynnwys llwybr Uniongyrchol, drwy Asiant, Mentrau ar y Cyd a Mansnachfreinio. Mae gan bob opsiwn ei fanteision a’i anfanteision ei hun, a does dim un opsiwn yn unig sy’n addas ar gyfer pob busnes bach a chanolig.
Pa mor dda ydych chi'n adnabod y cwmnïau neu’r bobl rydych chi’n masnachu â hwy? Mae deall y risgiau busnes posib rydych yn eu hwynebu o fewn masnach ryngwladol yn galluogi i chi ddefnyddio dull rhagweithiol er mwyn amddiffyn a gwella eich enw da fel brand.
Bydd y seminar hon yn rhoi cyngor ac arweiniad ar werthu i gwsmeriaid rhyngwladol drwy e-fasnach.
Dewch i ddysgu am Dwf Posibl Eich Busnes mewn marchnadoedd adnabyddus fel India, Singapore, Japan, ac Awstralia, yn ogystal ag economïau cynyddol fel Indonesia, Sri Lanka a Fietnam.
Sut wnewch chi elwa?
• Cipolygon uniongyrchol gan arbenigwyr sector a marchnad
• Deallusrwydd diweddaraf ar gyfleoedd a sectorau sydd â galw mawr amdanyn nhw
• Arweiniad a gwybodaeth ymarferol am gymorth sydd ar gael
• Rhwydweithio gwerthfawr gydag arbenigwyr y diwydiant a chyfoedion
Pam De Asia ac Asia Môr Tawel?
• Dros £90 biliwn mewn allforion y DU i’r rhanbarth yn y 12 mis hyd at fis Medi 2024
• Mae disgwyl i’r rhanbarth arwain tua chwarter o dwf byd-eang erbyn 2050
• Marchnadoedd prysur gan gynnwys India, Singapore a Japan
• Posibilrwydd enfawr i fusnesau’r DU
Mae Unlock Europe yn rhaglen newydd gan UKEA. Mae’n mynd â busnesau bach a chanolig ar daith drwy Ymchwil y Farchnad, Rheoleiddio (GPSR/CBAM), Delio gyda TAW, Deall y TCA a RoO gyda’r nod o adeiladu cysylltiadau mwy cadarn gyda Chwsmeriaid Ewropeaidd a chynyddu proffidioldeb a chyfle. Mae hefyd yn canolbwyntio ar Ddigido Masnach a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer symleiddio symudiad nwyddau i mewn i’r UE, gan edrych ar amrywiol Sectorau a’r gwahanol ddulliau yn ôl maint y Busnes ac uchelgais.
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn asiantaeth weithredol o’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Mae gan bob busnes eiddo deallusol. Gall y Swyddfa Eiddo Deallusol eich helpu chi i ddeall sut mae patentau, nodau masnach, dyluniadau a hawlfraint yn gallu bod yn fanteisiol i’ch busnes. Gallwn gynnig arweiniad a chymorth os ydych chi’n ystyried masnachu dramor.
Bydd y seminar hon yn rhoi trosolwg o wasanaethau UKEF a sut y gallant helpu cwmnïau’r DU i:
• ennill contractau allforio drwy ddarparu telerau ariannu deniadol i’w prynwyr;
• gwireddu contractau drwy gefnogi benthyciadau cyfalaf mewn gwaith; a
• chael eu talu drwy yswirio yn erbyn methiannau prynwr.
Ennill dealltwriaeth o beth yw realiti allforio i Siapan - y cyfleoedd allweddol a’r manylion ‘sydd angen eu gwybod’ ar gyfer busnesau sydd eisiau archwilio allforio i Siapan.
Mae’r Rhaglen Allforio Digidol gan yr Adran Busnes a Masnach yn cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer rhai sy’n allforio nwyddau a gwasanaethau i’w helpu i dyfu eu busnesau’n rhyngwladol yn ddigidol, gan gynnwys e-fasnach.
Mae gan Reoliad Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol yr UE oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer gweithredwyr niferus o fewn cadwyn gyflenwi cynnyrch.
Nod y rheoliad yw sicrhau diogelwch cynnyrch nad ydynt yn cael eu cynnwys o fewn safonau UE a marcio CE presennol, gan gynnwys rhai sydd eisoes wedi’u rheoleiddio ond nid pan maent yn cael eu gwerthu ar-lein neu drwy werthiannau o bell. Mae’n gynhwysfawr, ac yn cynnwys cynnyrch newydd sydd ar farchnad yr UE yn ogystal ag eitemau ail-law, sydd wedi’u hatgyweirio, eu hadnewyddu neu ailgylchu.
Bydd y rhan fwyaf o allforwyr nwyddau i’r prynwr y DU i’r UE yn cael eu heffeithio, felly mae deall goblygiadau, paratoi, a chydymffurfio yn hanfodol.
Bydd y gweithdy hwn yn darparu cyngor ac arweiniad ar ddefnyddio LinkedIn i fwyhau presenoldeb eich cwmni ar-lein.
Rydym yn eich gwahodd i gyfranogi mewn sesiwn bwrdd crwn deinamig yn benodol ar gyfer archwilio tirlun esblygol masnach y DU-UE. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i fusnesau ymgysylltu’n uniongyrchol gyda thîm Polisi Masnachu Llywodraeth Cymru er mwyn trafod heriau, rhannu profiadau, a datrysiadau ar gyfer adeiladu perthynas fasnachu fwy cadarn gyda’r UE.
Gyda’n gilydd, byddwn yn plymio i mewn i bynciau hollbwysig sy’n dylanwadu ar fasnach ôl-Brexit, gan gynnwys:
• Addasu i weithdrefnau tollau newydd
• Deall gwahaniaethau rheoleiddiol
• Rheoli amhariadau ar y gadwyn gyflenwi
• Mynd i’r afael gyda newidiadau mewn tariffiau a rhwystrau nad ydynt yn dariffiau
Y sesiwn hon yw eich llwyfan i leisio pryderon, adnabod cyfleoedd a chydweithredu ar ddatrysiadau arloesol ar gyfer twf cynaliadwy o fewn marchnad yr UE. P'un a ydych yn wynebu rhwystrau neu’n dadorchuddio llwybrau newydd, mae eich mewnwelediadau yn hanfodol i’r sgwrs hon.
Mae gwerthu nwyddau oddi allan i’r DU yn dod ag amrywiaeth o gyfrifoldebau TAW p’un a ydych yn masnachu drwy lwyfannau ar-lein neu’n allforio nwyddau o’ch eiddo yn y DU. Mae busnesau sy’n darparu gwasanaethau i gwsmeriaid dramor, p’un a ydynt yn ddefnyddwyr neu fusnesau, hefyd angen bod yn effro i’r ffordd y mae TAW y DU a TAW yn y gyrchwlad yn gweithredu fel ei gilydd. Bydd rheolau newydd o’r UE o bosib yn cael traweffaith ar fusnesau sy’n darparu mynediad at ddigwyddiadau a hyfforddiant ar-lein o Ionawr 2025 er enghraifft. Cewch gwmni arbenigwyr TAW o Xeinadin Indirect Tax a chasglu mewnwelediad i’r prif reolau TAW er mwyn sicrhau bod eich cynlluniau ar gyfer tyfu drwy allforio yn rhedeg yn esmwyth.
Dyma sesiwn lle byddwn yn cwmpasu egwyddorion ac arferion presennol y diwydiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod eich Dogfennaeth Allforio yn cydymffurfio ac yn gosteffeithiol. Bydd mynychwyr yn deall y dogfennau sy’n angenrheidiol ar gyfer allforio a chludiant rhyngwladol, a lle i fynd am gymorth a chyngor pellach.
Mae Chambers Wales yn darparu ystod eang o wasanaethau cefnogi i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau fel ei gilydd. Rydym yn cynorthwyo masnachwyr gyda dogfennaeth Allforio, megis Tystysgrif Tarddiad y DU, EUR1au, dogfennaeth a deddfwriaeth Arabaidd, Trwyddedau ATA neu ddatganiadau Tollau.
Mae masnachu’n fyd-eang gan adeiladu presenoldeb rhyngwladol fel arfer yn heriol, yn gostus a chyda risg busnes sylweddol.
Mae diaspora Cymru, sydd wedi’i wasgaru ar hyd a lled y byd, yn ffynhonnell gyfoethog o gefnogaeth i fusnesau o Gymru sydd â’u bryd ar fynd yn rhyngwladol.
Ymunwch yn y sesiwn hon a darganfod sut allwch chi wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus am:
1. Bod yn ddeniadol i’r farchnad / gwybodaeth am y farchnad
2. Y ffordd orau i fynd i mewn i farchnadoedd dethol
3. Dod o hyd i bartneriaid o fewn y farchnad
4. Dod o hyd i gwsmeriaid newydd
Bydd y sesiwn yn amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer darparwyr addysg a sgiliau’r DU: polisïau a sut i gadw ar flaen y gystadleuaeth
Ymunwch â phrif arbenigwyr y diwydiant ar gyfer trafodaeth banel fanwl am y strategaethau allweddol ar gyfer tyfu ac ehangu eich busnes yn llwyddiannus ym marchnad yr Unol Daleithiau. Bydd ein siaradwyr yn rhannu gwybodaeth am bynciau allweddol, gan gynnwys cyfleoedd i godi arian yn yr Unol Daleithiau, llywio’r sefyllfa fewnfudo ddatblygedig, a’r camau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer llwyddo. Yn ogystal, byddwn yn cymryd golwg ar y digwyddiad SelectUSA Summit yn Washington, D.C. ym mis Mai a’r cyfleoedd yn ei sgil ar gyfer cwmnïau yn y DU sy'n gobeithio ehangu i’r Unol Daleithiau.
Mae’r panel hwn yn ddefnyddiol ar gyfer busnesau sy’n dymuno mentro i farchnad yr Unol Daleithiau a ffynnu yno. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i dderbyn arweiniad arbenigol a gwybodaeth strategol.