Gan adeiladu ar Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol 2024 yn seiliedig ar Gwricwlwm a Chynnydd, bydd y Sgwrs Genedlaethol Haf 2024 yn canolbwyntio ar rôl addysgeg o ran cefnogi ein dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru. 

Wedi’i gefnogi gan yr Athro Graham Donaldson, bydd y Sgwrs Genedlaethol hon yn rhoi cyfle i chi:

  • Gymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol gydag ymarferwyr ledled Cymru; aros, myfyrio a dysgu gan y naill a’r llall wrth i ni barhau â’n taith Cwricwlwm i Gymru. 

  • ‘Trafod Addysgeg, Meddwl am Ddysgu’ mewn amgylchedd diogel. Bydd cydweithwyr o ysgolion a lleoliadau eraill yn gallu ymwneud gyda'i gilydd a phartneriaid addysg, yn cynnwys Estyn, gwasanaethau gwella ysgolion, Sefydliadau Addysg Uwch a'r academi arweinyddiaeth.

  • ‘Trafod Addysgeg, Meddwl am Arweinyddiaeth’. Archwilio sut ydym yn datblygu fel sefydliadau dysgu myfyriol a chwilfrydig gan ddarparu’r profiadau gorau ar gyfer dysgwyr Cymru.

Os yn arweinydd, athro neu’n gynorthwyydd dosbarth mewn ysgol yng Nghymru, bydd hwn yn gyfle gwerthfawr i rannu syniadau, dysgu gan eraill a magu perthnasoedd a fydd yn cryfhau ein dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru.

Gwyliwch ein fideos o sgyrsiau blaenorol i chi allu deall sut fyddwch yn elwa drwy gymryd rhan:

Bydd y sgwrs yn cael ei hysgogi gan ganfyddiadau newydd y Prosiect Ymchwil ‘Talk Pedagogy’ y gallwch chi gyfrannu'n uniongyrchol ato drwy gwblhau'r arolwg sydd i'w ganfod yn y diweddariad hwn o Addysg Cymru. Gallwch hefyd gael mynediad at adnodd i gefnogi’r arfer o fyfyrio ar addysgeg yma.

Dyma ddolen i sgyrsiau blaenorol a fydd yn ddefnyddiol i gefnogi'ch cyfraniad at y sgwrs genedlaethol ac i gynnal sgyrsiau yn eich lleoliad eich hun.

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2024

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis

Cefnogwyd gan Freshwater