Mae’r Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y ddau ddigwyddiad (a gynhelir yn Swansea.com Stadium a Venue Cymru) i’w cael isod. Sgroliwch i lawr i gael y wybodaeth ynghylch y digwyddiad yn Venue Cymru ar 2 Gorffennaf. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch ni ar: events@freshwater.co.uk

Stadiwm Swansea.com, Abertawe (27 Mehefin)

Cyfeiriad y lleoliad:

Stadiwm Swansea.com, Plas-marl, Abertawe SA1 2FA

Sut i gyrraedd y lleoliad:

Mewn car

Gadewch yr M4 ar Gyffordd 45 a chymerwch yr allanfa oddi ar y gylchfan am yr A4067 Heol Castell-nedd tuag at Ganol y Ddinas (yr allanfa gyntaf os ydych yn teithio tua’r gorllewin, a’r bedwaredd allanfa os ydych yn teithio tua’r dwyrain). Arhoswch ar yr A4067 am tua 2.5 milltir. Fe welwch y stadiwm ar eich ochr chwith wrth ichi deithio i lawr y ffordd ddeuol. Mae’r fynedfa i faes parcio’r Stadiwm yn yr un lle â’r fynedfa i Barc Manwerthu Morfa. Dilynwch y ffordd o amgylch, heibio i fwyty Frankie & Benny’s, a chymerwch y troad cyntaf i’r chwith. 

Mewn Trên

Mae Gorsaf Stryd Fawr Abertawe ar lwybr y brif linell o orsaf Paddington, Llundain. Mae’r orsaf tua 1.5 milltir oddi wrth y stadiwm. Mae gwasanaethau bysiau lleol (llwybrau 4 a 4a) a thacsis ar gael o’r orsaf drenau i’r stadiwm.

I gael amseroedd a phrisiau trenau, ewch i: 

Mewn Bws

Mae Gorsaf Fysiau y Quadrant tua 2.5 milltir oddi wrth y stadiwm. Mae gwasanaethau bysiau lleol (llwybrau 4 a 4a) a thacsis ar gael o’r Quadrant i’r stadiwm (heibio’r orsaf drenau).

Parcio:

Gellir parcio am ddim ym mhrif faes parcio’r stadiwm.

Wifi:

Enw’r rhwydwaith Wifi: Hospitality _Wifi

Dylai tudalen we agor. Cliciwch ar ‘Continue to the internet’, yna pwyswch ‘done’ yng nghornel dde uchaf y sgrin.

Hygyrchedd:

Mae’r stadiwm yn gwbl hygyrch. 

Mae tua 32 o fannau parcio hygyrch ar gael yn y prif faes parcio, o flaen y dderbynfa.

Mae’n bosib cyrraedd bob ystafell gynadledda gan ddefnyddio’r lifftiau, sydd wedi’u lleoli ym mhrif dderbynfa’r stadiwm. 

Mae toiledau hygyrch i’w cael ar bob llawr hefyd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hygyrchedd y lleoliad hwn, anfonwch neges e-bost i: events@freshwater.co.uk

Venue Cymru, Llandudno (2 Gorffennaf)

Cyfeiriad y lleoliad:

Venue Cymru, Y Promenâd, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB

Sut i gyrraedd y lleoliad:

Mewn Car

Mae Venue Cymru 4 milltir oddi wrth yr A55, sy’n cymryd tuag 8 munud mewn car. Mae hynny’n golygu ei fod yn hawdd ei gyrraedd o bob rhan o’r Gogledd-orllewin a thu hwnt ar hyd yr M62/M56. O Gyffordd 19 yr A55, dilynwch yr arwyddion am Landudno a chymerwch y troad am yr A470 (Ffordd y Cymry Brenhinol). Yna, dilynwch yr arwyddion ffordd brown am Venue Cymru. Cod post Venue Cymru: LL30 1BB

Mewn Bws

Mae nifer o wasanaethau bysiau yn mynd heibio cefn Venue Cymru (o flaen y maes parcio):

12 – Gorsaf Fysiau y Rhyl – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg oddeutu bob 10 munud, Llun - Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul.

5 / X5 – Bangor – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg oddeutu bob 20 munud tan 6pm, yna oddeutu bob 60 munud, Llun-Sadwrn. Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul.

X1 – Blaenau Ffestiniog – drwy Lanrwst a Betws-y-coed - Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg oddeutu bob 60 munud, Llun - Sadwrn. Gwasanaeth dydd Sul yn rhedeg oddeutu bob 3 awr.

I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bysiau Llandudno, cliciwch yma.

Mewn Trên

Mae Venue Cymru tua 10 munud ar droed oddi wrth orsaf drenau Llandudno a Chanol Tref Llandudno.

Os ydych yn dod allan o orsaf Llandudno, trowch i’r chwith a dilyn Vaughan Street. Ewch yn eich blaen i ymuno â Mostyn Broadway. Yna, parhewch ar hyd Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar eich ochr chwith, yn syth ar ôl mynd heibio Canolfan Nofio Llandudno.

I gael amseroedd a phrisiau trenau, ewch i: 

Parcio:

Mae Venue Cymru yn gweithredu maes parcio talu ac arddangos y tu cefn i’r adeilad, gyda mannau parcio dynodedig ar gyfer pobl anabl i’r chwith o’r brif fynedfa. Mae mannau parcio ar gael ar hyd y Promenâd hefyd. Mae’r rhain yn gweithredu ar sail talu ac arddangos tan 4pm, ac maent am ddim wedi hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am barcio yma.

Hygyrchedd:

Yn y maes parcio y tu cefn i’r adeilad (Mostyn Broadway), mae 18 o fannau parcio dynodedig i bobl anabl ar gael; gall deiliaid bathodyn anabl barcio am ddim yn y mannau hyn. Ceir mynediad i bobl anabl o’r maes parcio ac o’r Promenâd.

Mae’r holl fannau cyhoeddus ac ystafelloedd cynadledda yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hygyrchedd y lleoliad hwn, anfonwch neges e-bost i: events@freshwater.co.uk

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2024

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis

Cefnogwyd gan Freshwater