Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol Wyneb yn Wyneb

De Cymru - 31 Ionawr 2024 @ Stadiwm Dinas Caerdydd, Ffordd Leckwith, Caerdydd, CF11 8AZ (Mae’r digwyddiad hwn wedi bod).

Gogledd Cymru – 6 Chwefror 2024 @ Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB

Rhwng 9:30am a 15:45pm

Dewch draw i ymuno yn y Sgyrsiau Cenedlaethol wyneb i wyneb hyn am y Cwricwlwm i Gymru:

  • I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar ganllawiau Cwricwlwm i Gymru: Ymlaen â’r daith a beth mae hyn yn ei olygu i'ch ysgol neu leoliad chi;

  • Cyfrannu at y sgwrs genedlaethol am Gynllunio Cwricwlwm a Chynnydd;

  • Rhannu eich barn ar gyfleoedd a heriau yn y chwe maes dysgu a phrofiad, er mwyn helpu  lunio polisi ac ymarfer er budd pob dysgwr yng Nghymru; a

  • Rhwydweithio gyda chyd-ymarferwyr o bob rhan o Gymru, a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. 

Bydd lluniaeth ar gael.

Archebwch yn gynnar trwy ddefnyddio'r ddolen isod gan fod lleoedd yn gyfyngedig:

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2023

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis