Datganiad Preifatrwydd a Chwcis

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Mae'r Polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy'n ymweld â gwefan the Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut rydym yn ei defnyddio, o dan ba amodau y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel.

Efallai y byddwn yn newid y Polisi hwn o bryd i'w gilydd felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Drwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Polisi hwn.

Rheolydd data

Llywodraeth Cymru yw'r Rheolwr Data a Freshwater (FW) yw'r Prosesydd Data ar gyfer gwybodaeth a gyflwynir drwy wefan y digwyddiad Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rennir neu recordiadau a wnaed yn ystod y rhaglen ddigwyddiadau gysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru a FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU). Gellir cysylltu â swyddog Diogelu Data  Llywodraeth Cymru drwy e-bost yn DataProtectionOfficer@gov.wales.

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â hi drwy e-bost yn charlotte.homa@freshwater.co.uk

Gwefan digwyddiad  Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol

Mae gwefan digwyddiad Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol cael ei chynnal gan drydydd parti (Eventscase). Mae’r holl gynnwys gwe ac ymholiadau uniongyrchol a wneir drwy'r wefan n cael eu rheoli gan Freshwater.

Pa wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu?

Gall y wybodaeth sy'n ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad a ddewiswyd ac enw eich sefydliad (os yw'n berthnasol). Byddwn ond yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad(au) rydych wedi cofrestru ar eu cyfer.

Cwcis

Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am ymddygiadau ymwelwyr.

Mae cwcis yn ddarnau bach o wybodaeth sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Defnyddir y rhain fel arfer gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol yn seiliedig ar ymddygiadau ar-lein.

Mae Eventscase, er enghraifft, yn defnyddio cwcis i olrhain nifer yr ymwelwyr sy'n cofrestru ar gyfer digwyddiadau Llywodraeth Cymru – gan ganiatáu i ni ddarparu profiad gwell ar y safle.

Dadansoddeg Google

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan y digwyddiad Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweld â'r wefan drwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod patrymau ymddygiad cyffredinol, megis nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r safle. Dim ond mewn ffordd nad yw'n bersonol adnabyddadwy y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny.

Dolenni

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefan digwyddiad Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol oddi wrthi a gwefannau ein partneriaid. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau a allai fod yn hygyrch drwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn nac am unrhyw ddata personol y gellir ei gasglu drwy'r gwefannau neu'r gwasanaethau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

  • Optimeiddio gwefan y digwyddiad Sgwrs Genedlaethol ar Ddilyniant

  • Monitro lefelau cofrestriadau i ddigwyddiad(au).

  • Monitro pa sefydliadau sy'n cael mynediad i becyn cymorth rhanddeiliad digwyddiad Sgwrs Genedlaethol ar Ddilyniant

  • Anfon negeseuon e-bost atgoffa at bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiadau Sgwrs Genedlaethol ar Ddilyniant

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. Mae'n ofynnol i Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fabwysiadu polisi o gymryd rhan.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Freshwater yw'r prif brosesydd data ar gyfer data a gesglir drwy wefan digwyddiad Strategaeth Sgwrs Genedlaethol ar DdilyniantRydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac, o'r herwydd, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu'r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Mae'r proseswyr trydydd parti rydyn ni’n eu defnyddio fel a ganlyn:

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Byddwn yn cadw eich data am ddim mwy nag sy'n angenrheidiol a hyd at 5 mlynedd.

Beth yw eich hawliau unigol?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, i ddileu, i gyfyngu ac i gludo eich gwybodaeth bersonol. Os bydd unigolion yn dewis rhyngweithio yn y sesiynau byw, naill ai drwy fideo neu swyddogaeth sgwrsio, maen nhw’n rhoi eu caniatâd i gadw'r recordiadau ar gyfer ein cofnodion ac at ddibenion cyflawni amcanion y prosiect.  Gall unigolion ofyn i'w data gael ei anfon at ddarparwr arall a bydd unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu hystyried lle mae'n bosibl ynysu eu data penodol heb dorri hawliau cyfranogwr arall.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data FW: -

charlotte.homa@freshwater.co.uk

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae'r holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, yn cael eu hysbysu i chi drwy e-bost. Gwiriwch yn ôl yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

Os ydych chi’n anhapus gyda'r ffordd mae eich data personol wedi'i brosesu, gallwch yn y lle cyntaf gysylltu â Swyddog Diogelu Data FW gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, yna mae gennych chi’r hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF (ico.org.uk)

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol

Llywodraeth Cymru © 2023

Datganiad hygyrchedd

Polisi preifatrwydd a chwcis