Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol yn blatfform agored, sy'n rhoi cyfle i bob ymarferydd yng Nghymru gymryd rhan mewn cyd-adeiladu cenedlaethol i fynd i'r afael a heriau a chyfleoedd a rennir. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn:

•casglu a rhannu dealltwriaeth– gan ddod â barn, safbwyntiau ac arbenigedd gwahanol at ei gilydd yn genedlaethol i ddeall sut rydym yn datblygu, beth yw'r heriau, a sut mae pobl yn ymateb i'r rhain

  • cyd-greu dulliau – gyda'n gilydd, byddwn yn gweithio allan beth y gall gweithwyr proffesiynol addysgu, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a'r llywodraeth ei wneud i oresgyn yr heriau hyn

  • cysylltu pobl– caniatáu i bobl rwydweithio a datblygu perthnasoedd, rhwng gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid a all helpu ysgolion a lleoliadau yn uniongyrchol

  • gyrru newid– bydd sgyrsiau yn helpu i gefnogi a gyrru gweithrediad ar bob lefel

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn archwilio materion allweddol yn ymwneud â gweithredu'r cwricwlwm drwy sgyrsiau. Cynhelir y sgyrsiau hyn ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol ac, fel y bo'n briodol, awdurdodau lleol. Bydd y sgyrsiau hyn yn adeiladu ar ddysgu proffesiynol ar lefel ranbarthol, gan ddod ag ymarferwyr ynghyd ledled Cymru i ddatblygu dulliau gweithredu cenedlaethol.

Mae sgyrsiau ar agor i bob ysgol a lleoliad ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.