Mae darparwr gwe brodorol, blaenllaw Cymru, sef Ogi, a deorydd technoleg blaenllaw y ddinas, Tramshed Tech, yn cynnal Cymru ddigidol y dyfodol, yn Hodge House, Caerdydd, ddydd Iau 20 Ebrill am 6pm.
Gyda’i gilydd, maent yn dwyn ynghyd y gorau o Gymru gyda phanel o siaradwyr arbenigol o’r byd busnes i drafod pwysigrwydd seilwaith digidol i economi Cymru yn y dyfodol – a pha mor angenrheidiol yw cynhwysiant a sgiliau digidol i’n llwyddiant ar gyfer y dyfodol.
Gyda nod o gyflwyno cysylltedd Gigabit-bosibl i gymunedau ledled de Cymru, mae Ogi yn buddsoddi gwerth miliynau er mwyn denu gwariant a gwytnwch mawr ei angen i seilwaith digidol Cymru.
Yn sgil lansiad diweddar Ogi Pro, a’r cyhoeddiad y bydd rhwydwaith ffibr llawn unigryw yn cael ei osod yng Nghaerdydd, mae’r sylw nawr yn troi at sicrhau y gall busnesau sy’n tyfu ddod yn fusnesau hynod lwyddiannus pan fyddant yn ymuno â rhwydwaith ffibr llawn cyflymaf y DU, y mae partneriaid Ogi yn Tramshed Tech eisoes yn falch o elwa ohono.
Bydd ein digwyddiad ‘Cymru ddigidol y dyfodol’ yn cynnwys:
Trafodaeth banel yn cynnwys Siân Doyle (Prif Weithredwr, S4C), Matthew Turner (Pennaeth Gweithrediadau, Hwb Arloesedd Seiber), Sarah Williams-Gardner (Prif Swyddog Gweithredol, Fintech Wales) a Cai Gwinnutt (Prif Swyddog Technoloeg, Tramshed Tech).
Sesiwn holi ac ateb
Dan ofal Dot Davies, BBC Wales
Diodydd a lluniaeth am ddim