Polisi preifatrwydd y wefan

Mae Ogi a Freshwater wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd

Mae’r Polisi hwn yn egluro pryd a pham ein bod yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy’n ymweld â llwyfan digwyddiad Ogi neu’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut yr ydym yn ei defnyddio, yr amodau pan fyddwn, o bosib, yn ei ddatgelu i eraill a sut yr ydym yn ei gadw’n ddiogel.

Rheolydd data

Ogi yw’r Rheolydd Data a Freshwater (FW) yw’r Prosesydd Data ar gyfer gwybodaeth a rennir neu recordiadau a wneir yn ystod y digwyddiad. Mae Ogi ac FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau’r unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU (GDPR y DU). 

Mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data Ogi drwy e-bost: dpo@ogi.wales

Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data, ac mae modd cysylltu â hi drwy anfon e-bost at charlotte.homa@freshwater.co.uk

Llwyfan digwyddiad Ogi

Cynhelir llwyfan digwyddiad Ogi gan drydydd parti (Eventscase). Rheolir yr holl gynnwys ar y wefan ac ymholiad uniongyrchol a wneir drwy’r wefan gan Freshwater.

Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?

Fe all y wybodaeth sy’n ofynnol i’ch cofrestru ar gyfer digwyddiad gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad o’ch dewis ac enw eich sefydliad (os yw’n berthnasol). Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn unig.

Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

·      Gwneud y defnydd gorau posib o lwyfan digwyddiad Ogi.

·       Monitro lefelau cofrestriadau i’r digwyddiad(au).

·        Anfon negeseuon e-bost atgoffa i unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Ogi.

Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?

Mae prosesu data yn angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd. 

Pwy sy'n cael eich gwybodaeth?

Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer data a gesglir drwy lwyfan digwyddiad Ogi. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac felly efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd parti. Mae'r proseswyr trydydd parti a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

·       Eventscase ar gyfer cynnal llwyfan digwyddiad Ogi, rhannu gwybodaeth am y digwyddiad a rheoli cofrestriadau.   Meddalwedd rheoli digwyddiadau hollgynhwysol (eventscase.com)

·       Defnyddir Mandrilla/Mail Chimp fel is-brosesydd gan Eventscase ar gyfer gweinyddu negeseuon cyn ac ar ôl y digwyddiad.  Cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR): I gael caniatâd GDPR ar gyfer Marchnata | Mailchamp

·       Google Analytics i gynorthwyo i wella a gwneud y defnydd gorau posib o’r wefan.

Am ba hyd gaiff eich gwybodaeth ei chadw?

 Byddwn yn cadw eich data dim hirach na’r angen a hyd at ddiwedd Mehefin 2023.

Beth yw eich hawliau unigol?

Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ar a chludo data eich gwybodaeth bersonol. 

Dylid gwneud unrhyw gais neu wrthwynebiad drwy ysgrifennu at Swyddog Diogelu Data FW:-

charlotte.homa@freshwater.co.uk

Diogelwch eich gwybodaeth

Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei rhannu'n cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n safle; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Dolenni

Mae ein safle’n cynnwys dolenni i lwyfan digwyddiad Ogi ac ohono, a gwefannau ein partneriaid. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, sylwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau a all fod yn hygyrch drwyddyn nhw eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn nag unrhyw ddata personol a gesglir drwy’r gwefannau neu’r gwasanaethau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn eich bod yn cyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost. Cadwch olwg ar y dudalen hon i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.

Sut i wneud cwyn

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich data personol wedi ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data FW yn gyntaf drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF (ico.org.uk).

 

 

Hygyrchedd                           Cwcis                                   Polisi preifatrwydd gwefan                          Telerau ac amodau