Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i lwyfan digwyddiadau ar-lein Arddangosfa Ogi, yn benodol: https://freshwater.eventscase.com/CY/OgiProLaunchEvent a’r is-dudalennau.
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Freshwater ar lwyfan Eventscase. Rydyn ni am i gymaint â phosib o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylai defnyddwyr allu:
llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
cyrchu’r testun amgen ar gyfer delweddau gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
cyrchu dogfenni PDF gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
cyrchu sgrindeitlau ar y ffrydiau fideo/fideo byw
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes anabledd gyda chi.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydyn ni’n gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon ddim yn gyfan gwbl hygyrch, er y gallai hyn newid yn y dyfodol gyda diweddariadau pellach i lwyfan Eventscase. Er enghraifft, ar hyn o bryd nid oes modd:
newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
addasu uchder y llinell neu fylchiad y testun
llywio’r wefan yn rhwydd gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
Adborth a gwybodaeth gysylltu
Os oes angen i chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddeall, recordiad sain neu destun braille, cysylltwch â:
E-bost: charlotte.homa@freshwater.co.uk
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch chi cyn pen 2 ddiwrnod.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
E-bost: charlotte.homa@freshwater.co.uk
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Freshwater wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1, am y rhesymau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol:
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid oes modd i’r defnyddiwr newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau nac addasu uchder y llinell na bylchiad y testun ar wefan Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022–2030. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 Egwyddor 1: Canfyddadwy. Mae’r llwyfan ddigwyddiadau, Eventscase, yn adolygu pa ddatblygiad y mae ei angen i alluogi defnyddwyr i addasu’r ffontiau a’r testun.
Mae modd defnyddio’r bysellfwrdd i lywio’r wefan, ond nid oes gwahaniaethu o ran lliw ar yr opsiwn sydd wedi’i ddewis yn y ddewislen. Mae’r eitem sydd wedi’i dewis yn cael ei dangos yn y blwch newid URL ar waelod y dudalen. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 Egwyddor 2: Gweithredadwy. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw’n bosibl i’r defnyddiwr chwyddo’r dudalen i 200% na 400% heb i’r cynnwys fynd oddi ar y dudalen. Mae hyn yn methu WCAG Lefel AA 2.1: Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid oes opsiwn testun amgen ar yr eiconau bach ar y wefan. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1:1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw’r ffurflenni testun ar y wefan yn cynnwys labeli testun cysylltiedig. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel 2.1:1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw dolenni cysylltiedig yn cael eu grwpio gan ddefnyddio’r adnodd llywio ar y dudalen “Fy Nghyfrif” ac ar frig y prif blatfform digwyddiadau. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1: 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw ardaloedd y dudalen yn cael eu nodi gan ddefnyddio tirnodau ARIA. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1:3.1 Gwybodaeth a Pherthynas. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw’r codio HTML ar dudalen Cyfrif y defnyddiwr yn cynnwys penawdau. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda Lefel A 2.1:1.3.1 Gwybodaeth a Pherthynas. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Mae gwybodaeth yn cael ei gyfathrebu trwy ddefnyddio lliw yn unig. Disgwylir nad oes unrhyw ran o’r dudalen yn cael ei chyfleu trwy ddefnyddio lliw yn unig. Ar draws y wefan, mae camgymeriadau mewn ffurflenni’n cael eu nodi yn ôl lliw. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1:1.4.1 Defnydd o Liw. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Ni ddarperir testun gwall disgrifiadol ar gyfer blychau mewn ffurflenni sy’n nodi pa flwch sy’n anghywir pan adewir yn wag. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda Lefel A 2.1:3.3.1 Nodi gwallau. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid yw’r blychau fformat gofynnol/penodol yn darparu rhywfaint o’r wybodaeth i gyd-fynd â’r label cysylltiedig neu nodwedd teitl i nodi’r fformat gofynnol/penodol. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1:3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Mewn rhannau o’r adran “Fy nghyfrif” ar y llwyfan, nid oes digon o gyferbynnu rhwng y testun a’r cefndir. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel AA 2.1:1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm). Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Nid oes botwm i neidio i’r prif gynnwys ar y tudalennau gwe ac mae strwythur y penawdau’n anghywir ar y tudalennau Cofrestru ar gyfer Digwyddiad a Fy Nghyfrif. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1: 2.4.1 Rhwystrau Osgoi. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
Mae’r tab i drefnu cynnwys tudalennau gwe yn afresymegol ac yn anghyson ar draws nifer o dudalennau gwe. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1: 2.4.3 Trefn Ganolbwyntio. Mae Eventscase yn adolygu’r nodwedd hon hefyd.
O fewn y platfform, mae darluniau sy’n cynnwys testun yn bresennol, ac er bod testun amgen ar gyfer y mwyafrif o’r rhain, nid oes modd i’r defnyddiwr ei addasu. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel AA.2.1:1.4.5 Lluniau o Destun. Mae’r llwyfan ddigwyddiadau, Eventscase, yn adolygu’r gwaith datblygu sydd ei angen i alluogi defnyddwyr i addasu’r ffont a’r testun.
Mae gwallau HTML yn bresennol yn y codau y tu ôl i’r tudalennau. Nid yw hyn yn cydymffurfio gyda WCAG Lefel A 2.1: 4.1.1 Dosbarthu. Mae’r llwyfan ddigwyddiadau, Eventscase, yn adolygu’r gwaith datblygu sydd ei angen i alluogi defnyddwyr i addasu’r ffont a’r testun.
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 20.03.2023