Mae llwyfan digwyddiad Ogi yn cael ei reoli gan Freshwater. Wrth fynd i mewn i’n gwefan rydych chi'r defnyddiwr yn derbyn ein Telerau ac Amodau. Mae llwyfan digwyddiad Ogi yn cael ei chynnal at eich defnydd personol ac i chi gael edrych arni. Trwy gyrchu a defnyddio’r wefan hon rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym o ddyddiad y defnydd cyntaf.
Ogi yw’r Rheolydd Data a Freshwater (FW) yw’r Prosesydd Data ar gyfer gwybodaeth a rennir neu recordiadau a wneir yn ystod y digwyddiad. Mae Ogi ac FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau’r unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU (GDPR y DU).
Mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data Ogi drwy e-bost: dpo@ogi.wales
Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data, ac mae modd cysylltu â hi drwy anfon e-bost at charlotte.homa@freshwater.co.uk
Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu dolenni uniongyrchol i’r wybodaeth sydd ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Dylai tudalennau llwyfan digwyddiad Ogi lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau cael eu llwytho i fframiau ar eich safle.
Os yw perchnogion porth yn dymuno cynnwys tudalennau llwyfan digwyddiad Ogi o fewn safle porthol yna cysylltwch ag events@freshwater.co.uk. Dylech gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost a disgrifiad o'ch safle porthol.
I gofrestru ar gyfer digwyddiad Ogi, mae gofyn i chi gofrestru ar lwyfan y digwyddiad.
Fe all y wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad o’ch dewis ac enw eich sefydliad (os yw’n berthnasol). Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’r digwyddiad(au) yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn unig y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.
Gwneud y defnydd gorau posib o lwyfan digwyddiad Ogi
Monitro lefelau cofrestriadau i’r digwyddiad(au).
Anfon negeseuon e-bost atgoffa i bobl sydd wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad Ogi.
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn negeseuon atgoffa ynghylch y digwyddiad a ffurflen werthuso drwy e-bost ar ôl y digwyddiad. Os hoffech chi optio allan o’r negeseuon e-bost atgoffa hyn, cysylltwch â events@freshwater.co.uk.
Freshwater yw’r prif brosesydd data ar gyfer data a gesglir drwy lwyfan digwyddiad Ogi. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac felly efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd prosesu’r wybodaeth hon yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Mae'r proseswyr trydydd parti a ddefnyddiwn fel a ganlyn:
Eventscase ar gyfer cynnal llwyfan digwyddiad Ogi, rhannu gwybodaeth am y digwyddiad a rheoli cofrestriadau. Meddalwedd rheoli digwyddiadau hollgynhwysol (eventscase.com)
Defnyddir Mandrilla/Mail Chimp fel is-brosesydd gan Eventscase ar gyfer gweinyddu negeseuon cyn ac ar ôl y digwyddiad. Cydymffurfiaeth â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR): I gael caniatâd GDPR ar gyfer Marchnata | Mailchamp
Google Analytics i’n helpu ni i wella a chael y mwyaf o’r wefan.
Mae’r llwyfan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddi-enw am ymddygiadau ymwelwyr.
Darnau bach o wybodaeth yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan lwyfannau. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol yn seiliedig ar ymddygiadau ar-lein.
Pan mae rhywun yn ymweld â llwyfan digwyddiad Ogi, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweliadau â’r safle drwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i gael gwybod mwy am batrymau ymddygiad cyffredinol, megis nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau’r wefan. Dim ond mewn ffordd sy’n cadw hunaniaeth bersonol yn anhysbys y prosesir y wybodaeth hon. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i hunaniaeth y rhai sy’n ymweld â’r wefan, nac yn gadael i Google wneud hynny.
Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio cwcis sy’n hanfodol i reoli ein gwefan a’n gwasanaethau, sydd hefyd yn gwella eich profiad pori. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cwcis hyn wedi’i rhestru isod, fodd bynnag mae eich defnydd parhaus o’r wefan heibio’r fan hon yn golygu eich bod yn derbyn y defnydd o gwcis gan:
Eventscase Google Analytics
Darllenwch ein datganiad cwcis am ragor o wybodaeth.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt. Ni ddylid ystyried bod eu rhestru yn eu cymeradwyo. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau y ceir dolenni iddynt.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, achos o darfu neu ddifrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaw o’n gwefannau.
Mae gwybodaeth llwyfan digwyddiad Ogi (neu wybodaeth trydydd parti), yn cael ei darparu ‘fel y mae’ heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warantiad o unrhyw fath, p'un a yw'n ddatganedig neu'n oblygedig. Ni allwn warantu na fydd tarfu ar y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon, nac ychwaith y byddant yn rhydd rhag camgymeriadau, nac y caiff diffygion eu cywiro, nac y bydd y wefan hon na'r gweinydd sy'n ei galluogi i fod ar gael yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.