Ysgolion cynradd
Ysgolion uwchradd
Ysgolion bob oed
Ysgolion arbennig, neu
Unedau cyfeirio disgyblion
Glywed am gynlluniau ar gyfer ein trefniadau arolygu newydd o Fedi 2024 ymlaen
Helpu llunio ein trefniadau arolygu newydd
Clywed am arfer effeithiol gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir
Rhwydweithio â phenaethiaid ac uwch arweinwyr eraill o bob cwr o Gymru
Fe wnaeth y siaradwr gwadd, Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg yng Nghymru, ynghyd â phanel o uwch arweinwyr o ysgolion, rannu eu profiadau o arolygiadau peilot ein trefniadau arolygu newydd. Cafodd sesiynau penodol i sector ar ein trefniadau newydd arfaethedig eu teilwra i wahanol sectorau.
Amser cinio, bu rhwydweithio gyda phenaethiaid ac uwch arweinwyr o bob cwr o Gymru, cyn dewis o weithdai lle y gwnaeth ysgolion ac UCDau rannu arfer effeithiol ar themâu:
Datblygu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog
Lliniaru effeithiau tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad addysgol
Defnyddio prosesau hunanwerthuso i gynllunio ar gyfer gwella
Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar CynhadleddGenedlaetholEstynibenaethiaid@freshwater.co.uk
Diolch i bawb a fynychodd – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yng nghynhadledd nesaf Estyn i benaethiaid yn 2025.
Rydym yn defnyddio Arolygwyr Cymheiriaid mewn arolygiadau ym mron pob sector rydym yn ei arolygu. Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn gweithio fel uwch arweinwyr/rheolwyr mewn ysgolion ac UCDau ac rydym yn dosbarthu Arolygwyr Cymheiriaid i hyd at dri thîm arolygu bob blwyddyn.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn aelodau llawn o’r tîm arolygu ac maent yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau arolygu, gan gynnwys arsylwi sesiynau, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweld â staff a drafftio rhannau o’r adroddiad arolygu.
I fod yn Arolygydd Cymheiriaid, mae’n rhaid i chi:
Fod yn cael eich talu ar y raddfa gyflog uwch arweinyddiaeth
Bod mewn swydd barhaol
Bod ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad arweinyddiaeth
Bod ag o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu
Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn siarad ag arweinwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Arolygwyr Cymheiriaid a darganfod mwy am sut y gallwn gydweithio â chi i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn fwy hygyrch.
Rydym yn gwahodd Arolygwyr Cymheiriaid cofrestredig a’r rhai sydd â diddordeb mewn hyfforddi i ddod yn Arolygwyr Cymheiriaid i lenwi’r arolwg byr isod i rannu eich myfyrdodau a’ch profiadau:
Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol.