Cardif City Stadium, Leckwith Rd, Cardiff CF11 8AZ
Cyfeiriadau ffordd:
Gyrru o gyfeiriad y Dwyrain
Gyrru o'r dwyrain Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.
Gyrru o'r gorllewin
Gadewch yr M4 ar gyffordd 33. Cymerwch y trydydd troad ar y gylchfan tuag at yr A4232 at Benarth. Wedi oddeutu 6 milltir, ewch i'r chwith a gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion tuag at Stadiwm Dinas Caerdydd. Cymerwch y troad cyntaf ar y gylchfan tuag at Heol Lecwydd (B4267 at Ganol y Ddinas). Mae Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde.
Parcio:
Mae'r prif faes parcio wedi'i leoli ym Maes Parcio Stadiwm Dinas Caerdydd, Lleoliad C a D, gyferbyn â'r Sand Martin.
Mae parcio ar gael am ddim yma.
Mae lle parcio am ddim ar y safle ar gael ar gyfer hyd at 1,200 o geir yn y Clwb Pêl-droed Mae Cwestiynau Cyffredin am y lleoliad i'w gweld yma: https://www.cardiffcityconferenceandevents.co.uk/about-us/faqs/
Cyfeiriadau bws:
Mae gwasanaeth bws rheolaidd yn rhedeg i Stadiwm Dinas Caerdydd o Orsaf Fysiau Caerdydd Canolog. Mae bysiau rhif 1, 8, 95, X91, X1 a 95B yn stopio gerllaw, y gwasanaethau mwyaf uniongyrchol yw 1, 2, 4, 95A, 95B a 95C. Cysylltwch â Cardiff Bus am ragor o wybodaeth.
Cyfeiriadau trên:
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn daith dacsi ddwy filltir o hyd o orsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae trenau’n teithio’n rheolaidd i Paddington Llundain, Reading, Swindon, Bryste, Portsmouth, Southampton, Weymouth a gorllewin Cymru, gyda chysylltiadau rhwydd i'r rhan fwyaf o ardaloedd y DU. Cysylltwch â National Rail am ragor o wybodaeth.
Mae cofrestru’n cychwyn am 09:00. Bydd lluniaeth ar gael o 09:00. Caniatewch ddigon o amser i godi'ch bathodyn enw a chael sedd cyn i'r gynhadledd ddechrau.
Mae'r digwyddiad yn cychwyn am 10:00 ac yn gorffen am 15:30. Am fwy o wybodaeth, gweler tudalen yr agenda yma.
Lefel 3 Ricoh Suite
Enw'r rhwydwaith: RICOH
Cyfrinair: RICOHSUITE
Lefel 4 Premier Lounge
Enw'r rhwydwaith: PREMIER LOUNGE
Cyfrinair: CCFC2024
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael i bawb sy'n bresennol yn y digwyddiad.
Bydd gwasanaeth arlwyo yn cael ei ddarparu yn ystod y gynhadledd. Os oes gennych ofynion dietegol, sicrhewch eich bod wedi eu cynnwys ar eich ffurflen gofrestru. Os nad ydych, anfonwch e-bost atom ar: cynhadleddgenedlaetholestynibenaethiaid@freshwater.co.uk
Os nad ydych yn gallu mynychu mwyach, rhowch wybod i ni gan roi cymaint o rybudd ag sy’n bosibl fel y gallwn gynnig eich lle i rywun arall. Rhowch wybod i ni drwy e-bostio: cynhadleddgenedlaetholestynibenaethiaid@freshwater.co.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud yn benodol ag Estyn, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Estyn: https://www.estyn.gov.wales/events-frequently-asked-questions
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch ni ar: cynhadleddgenedlaetholestynibenaethiaid@freshwater.co.uk
Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol.