Yn galw ar holl benaethiaid ac uwch arweinwyr o’r sefyliadau a gynhelir yn y sectorau canlynol: 

  • Ysgolion cynradd

  • Ysgolion uwchradd

  • Ysgolion bob oed

  • Ysgolion arbennig, neu

  • Unedau cyfeirio disgyblion

 

Cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol Estyn i Benaethiaid yng Nghaerdydd ar 29 Chwefror. Fe wnaeth y gynhadledd alluogi penaethiaid i:

  • Glywed am gynlluniau ar gyfer ein trefniadau arolygu newydd o Fedi 2024 ymlaen

  • Helpu llunio ein trefniadau arolygu newydd

  • Clywed am arfer effeithiol gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir

  • Rhwydweithio â phenaethiaid ac uwch arweinwyr eraill o bob cwr o Gymru

 

Fe wnaeth y siaradwr gwadd, Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg yng Nghymru, ynghyd â phanel o uwch arweinwyr o ysgolion, rannu eu profiadau o arolygiadau peilot ein trefniadau arolygu newydd. Cafodd sesiynau penodol i sector ar ein trefniadau newydd arfaethedig eu teilwra i wahanol sectorau.

Amser cinio, bu rhwydweithio gyda phenaethiaid ac uwch arweinwyr o bob cwr o Gymru, cyn dewis o weithdai lle y gwnaeth ysgolion ac UCDau rannu arfer effeithiol ar themâu:

  • Datblygu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog

  • Lliniaru effeithiau tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad addysgol

  • Defnyddio prosesau hunanwerthuso i gynllunio ar gyfer gwella

  • Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar CynhadleddGenedlaetholEstynibenaethiaid@freshwater.co.uk

Diolch i bawb a fynychodd – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yng nghynhadledd nesaf Estyn i benaethiaid yn 2025.

 

Recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid:

Rydym yn defnyddio Arolygwyr Cymheiriaid mewn arolygiadau ym mron pob sector rydym yn ei arolygu. Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn gweithio fel uwch arweinwyr/rheolwyr mewn ysgolion ac UCDau ac rydym yn dosbarthu Arolygwyr Cymheiriaid i hyd at dri thîm arolygu bob blwyddyn.

Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn aelodau llawn o’r tîm arolygu ac maent yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau arolygu, gan gynnwys arsylwi sesiynau, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweld â staff a drafftio rhannau o’r adroddiad arolygu.


I fod yn Arolygydd Cymheiriaid, mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn cael eich talu ar y raddfa gyflog uwch arweinyddiaeth

  • Bod mewn swydd barhaol

  • Bod ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad arweinyddiaeth

  • Bod ag o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu


Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn siarad ag arweinwyr sydd â diddordeb mewn dod yn Arolygwyr Cymheiriaid a darganfod mwy am sut y gallwn gydweithio â chi i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn fwy hygyrch.

Rydym yn gwahodd Arolygwyr Cymheiriaid cofrestredig a’r rhai sydd â diddordeb mewn hyfforddi i ddod yn Arolygwyr Cymheiriaid i lenwi’r arolwg byr isod i rannu eich myfyrdodau a’ch profiadau:

Mae'r holl destun ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ac eithrio lle nodir yn wahanol.

Datganiad hygyrchedd​

Polisi preifatrwydd a chwcis​

Wedi pweri gan Freshwater