Yn cael ei gynnal ddydd Mercher 13 Hydref 2021, o 10:00am-12:00pm, bydd y digwyddiad yn ymchwilio i’r rôl hanfodol y gallai pum porthladd ABP De Cymru (Y Barri, Caerdydd, Casnewydd, Port Talbot ac Abertawe) ei chwarae yn y dyfodol, wrth i Gymru osod y sylfeini ar gyfer economi digidol wedi’i datgarboneiddio dros y ddeg ar hugain mlynedd nesaf.
Bydd dau o brif anerchiadau a thrafodaeth banel ar thema’r ‘Papur Gwyn’ y mae ABP newydd ei gyhoeddi, sy’n trafod ystod o themâu a materion gwahanol, ac sy’n cynnwys cyfres o “genadaethau” sy’n cynrychioli rhai o’r heriau y bydd Cymru’n eu hwynebu dros y 30 mlynedd nesaf.
Y pedair cenhadaeth a nodwyd yw;
Cenhadaeth 1: Datgarboneiddio cynhyrchu ynni
Cenhadaeth 2: Datgarboneiddio’r broses weithgynhyrchu
Cenhadaeth 3: Datgarboneiddio’r diwydiant logisteg
Cenhadaeth 4: Creu amgylcheddau twf i gymunedau, busnesau ac ecosystemau
Mae’r digwyddiad am ddim ac yn berthnasol i gynulleidfa amrywiol o fusnesau, grwpiau busnes a chymuned, sefydliadau academaidd, cynrychiolwyr gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill sydd â budd mewn datblygiad economaidd, cynaliadwyedd, cynllunio ac adfywio, gweithgynhyrchu ac allforio, materion morol a logisteg.
Bydd cyfle i rwydweithio’n rhithwir gyda phobl eraill sy’n bresennol, gofyn cwestiynau, lawrlwytho adnoddau defnyddiol a dysgu am drawsnewidiad porthladdoedd Cymru i’r dyfodol.
Mae Porthladdoedd y dyfodol: Gweledigaeth Cymru yn gyfle unigryw i gymryd rhan mewn trafodaeth bwysig am ddyfodol porthladdoedd Cymru. Mae hefyd yn gyfle i archwilio sut gallai eich sefydliadau chwarae rhan wrth weithio ochr yn ochr â gweithredwyr porthladdoedd, llywodraethau, busnesau a chymunedau lleol i fodloni’r heriau a gwireddu’r cyfleoedd sydd i ddod.
Starts: 10:00
Ends: 12:00