Ein Cefndir

ABP yw perchennog a gweithredwr porthladdoedd blaengar y DU, gyda’r cysylltiadau gorau. Mae ein rhwydwaith o 21 o borthladdoedd ledled Prydain yn cynnig mynediad morol, ffyrdd a rheilffyrdd digyffelyb i farchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae ABP hefyd yn berchen ar derfynfa llwythi rheilffyrdd prysuraf y DU yn Hams Hall, yng nghanol y wlad.

Rydym yn buddsoddi’n barhaus i seilwaith, offer a sgiliau ac mae angen i ni ymdrin ag ystod eang o gargo yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gynaliadwy. Mae ein timau arbenigol yn cydweithio i adeiladu partneriaethau hirdymor a chyflawni’r datrysiadau cadwyn gyflenwi cywir i’n cwsmeriaid, gan gynnwys gwasanaethau gwerth ychwanegol a chyfleusterau newydd sbon, wedi’u teilwra i’w hanghenion busnes.

Mae ABP hefyd yn cynnig llawer iawn o diroedd datblygu ledled ystod eang o leoliadau porthladdoedd strategol, sy’n gallu denu buddsoddiad a chyflawni manteision trawsnewidiol i’r economi yn lleol ac yn genedlaethol.

Yn rhan hanfodol o gadwyni cyflenwi busnesau ym mhob rhan o’r wlad, mae ein porthladdoedd yn cefnogi 119,000 o swyddi ac yn cyfrannu £7.5 biliwn at yr economi bob blwyddyn, gan ymdrin â £149 biliwn o fasnach.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r cymunedau sy’n dibynnu ar ein porthladdoedd. Rydym wedi ymrwymo i wasanaethu ein cwsmeriaid. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein cenhadaeth: Parhau i Fasnachu ym Mhrydain.

Porthladdoedd Cymru a Phellteroedd Byr

Mae porthladdoedd De Cymru ABP yn cynnwys arwynebedd o 1,538 ha a gyda’u cwsmeriaid, maent yn cefnogi 15,000 o swyddi ledled Cymru ac yn cyfrannu £1.4bn at economi’r DU. Mae Porthladdoedd Pellteroedd Byr ABP yn ymestyn i bedwar rhanbarth daearyddol ac 11 o borthladdoedd wedi’u lleoli yn Nwyrain Anglia, y De Orllewin, y Gogledd Orllewin a’r Alban, gan drin 4 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn. Yng Nghymru a ledled y porthladdoedd pellteroedd byr, mae porthladdoedd ABP yn trin ystod eang o gargo ac yn cynnig cyfleoedd ardderchog ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu sy’n canolbwyntio ar borthladdoedd.