Bydd cyfarwyddwr rhanbarthol ABP ar gyfer Cymru a Phorthladdoedd Pellteroedd Byr (Short Sea Ports), Andrew Harston, yn dechrau’r digwyddiad rhithwir drwy groesawu’r holl fynychwyr, gosod y cefndir i bapur gwyn ABP ar Borthladdoedd y dyfodol: Gweledigaeth Cymru a chyflwyno’r prif siaradwyr o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Bydd sgyrsiau’r prif siaradwyr yn archwilio sut mae’r uchelgeisiau a nodwyd ym mhapur gwyn ABP (Porthladdoedd y dyfodol: Gweledigaeth Cymru - Sut gall porthladdoedd helpu i gyflawni trawsnewidiad Cymru) yn cefnogi amcanion sero net y Llywodraeth, a’r uchelgeisiau o ran codi’r gwastad.
Mae ABP wedi cynnull panel o arbenigwyr o feysydd datblygiad economaidd ac adfywio, gweithgynhyrchu a diwydiant, ynni a datgarboneiddio, ac wrth gwrs, gweithrediadau porthladdoedd a morol, i ddadlau’r themâu allweddol a nodir ym mhapur gwyn Porthladdoedd y dyfodol: Gweledigaeth Cymru. Bydd Tim Morris, prif weithredwr Grŵp Porthladdoedd Mawr y DU a Chymro i’r carn, yn cadeirio.
Bydd mynychwyr yn clywed barn y panel ar sut gall porthladdoedd a’u cwsmeriaid weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd, gyda llywodraeth genedlaethol a lleol, a’r gymuned fusnes ehangach a’r byd academaidd i daclo’r heriau a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Bydd cyfleoedd i fynychwyr holi cwestiynau a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y partneriaethau newydd a chydweithio arloesol fydd ei angen i ddarparu’r trawsnewidiad economaidd ac amgylcheddol yr hoffai Cymru ei weld dros y 30 blynedd nesaf.