Cliciwch Cofrestru isod i fynychu.
Cynhelir digwyddiad Porthladdoedd y dyfodol: Gweledigaeth Cymru ddydd Mercher 13 Hydref 2021, gan ddechrau am 10:00am tan 12:00pm.
I gael y profiad gorau, argymhellwn eich bod yn defnyddio Google Chrome i ddod i’r digwyddiad rhithwir. I lawrlwytho Google Chrome, dilynwch y ddolen ganlynol: https://www.google.com/intl/en_uk/chrome/
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, fe welwch fotwm “cynnwys ar-lein” yn rhan o’r bar offer ar frig y dudalen. Byddwch yn gallu mynd i’r digwyddiad ar-lein o fan hyn.
Hefyd, y diwrnod cyn y digwyddiad byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar y cynnwys ar-lein. Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau drwy e-bostio ABPWales@freshwater.co.uk
Gallwch gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad drwy e-bostio ABPWales@freshwater.co.uk neu gall mynychwyr cofrestredig gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad byw unwaith y byddant wedi cofrestru ac ar y dudalen cynnwys. Bydd rhan holi ac ateb ar ochr dde eich tudalen, gallwch ei defnyddio i gyflwyno cwestiynau i’r siaradwyr. Bydd un o weithwyr ABP yn rheoli’r cwestiynau.
Bydd yr holl gyflwyniadau’n cael eu recordio ac ar gael am 3 mis ar ôl y digwyddiad. Gall mynychwyr cofrestredig wylio’r holl gynnwys ar unrhyw adeg.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwch yn gweld y tab “Rhwydweithio” ar y bar dewislen. Pan fyddwch yn clicio’r dudalen hon, byddwch yn gallu cysylltu â mynychwyr cofrestredig eraill. Gallwch ddefnyddio’r dudalen hon i weld pwy sy’n mynychu, anfon negeseuon sgwrsio a threfnu galwadau fideo. Bydd y platfform rhwydweithio hefyd ar agor ar ôl y digwyddiad, gan ymestyn eich amser rhwydweithio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill sydd heb gael eu trafod yma, e-bostiwch: ABPWales@freshwater.co.uk