Ddydd Mercher 8 Rhagfyr, aeth Cymru'n Iach ar Waith ati i gydnabod a dathlu cyflogwyr a thimau ledled Cymru sydd wedi dangos ymroddiad i lesiant, arloesedd a chreadigedd eu staff o ran eu hymateb i bandemig Covid-19. Gwnaed hyn drwy gyfres o gymeradwyaethau, wedi’i chyflwyno mewn digwyddiad cymeradwyo rhithiol gan roi’r cyfle i fusnesau ddysgu gan y naill a'r llall ac arddangos eu llwyddiannau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Ers dechrau 2020, mae Covid-19 wedi bod, ac yn parhau i fod, y bygythiad mwyaf i fusnesau a sefydliadau. Maent wedi goresgyn nifer o heriau uniongyrchol ac ymarferol drwy gydol y cyfnod hwn, ac yn parhau i wneud hynny, er mwyn cyflawni lefel o wytnwch, hyder a sicrwydd ar gyfer eu gweithlu. Wrth gymryd camau i symud y tu hwnt i'r cyfnod clo, mae camau pellach yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau newydd wrth i fusnesau a sefydliadau ddechrau caniatáu gweithwyr yn ôl i'r gweithle.
Bu'r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a ddenodd dros 160 o gofrestriadau. Os hoffech wylio’r digwyddiad, gweler y dudalen ar alw.