Y gwesteiwr

Bu Digwyddiad Cymeradwyaeth Covid-19 yn fodd o ddathlu cyflawniadau iechyd a llesiant cyflogwyr yng Nghymru. Gwyliwch y digwyddiad ar y dudalen ar alw i gael clywed am y mentrau a gafodd eu cyflwyno gan sefydliadau er mwyn cefnogi iechyd eu gweithlu a’u cymuned ehangach. Yn cyflwyno'r digwyddiad oedd Geraint Hardy.

Ganwyd Geraint yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno The Friday Night Social ar BBC Radio Wales ac mae hefyd i'w glywed ar BBC Radio Cymru.

Fel rhan o’i sioe ar gyfer BBC Radio Wales, mae Geraint yn cyfweld sêr y byd chwaraeon sy’n ymuno ag ef ar y rhaglen. Mae’n fwy na chyfforddus yn sgwrsio ag enwau mawrion o fyd chwaraeon neu'r busnes sioeau neu aelodau o’r cyhoedd sydd am leisio'u barn.

Geraint yw cyflwynydd ‘Codi Pac’ hefyd, sef unig raglen wyliau S4C lle mae'n teithio ledled Cymru i gael blas ar ei phleserau, o'r bwyd gorau, pethau i’w gwneud, lle i aros a pha fath o le i aros ynddo - Geraint yw'r dyn sy'n gwybod y cyfrinachau i gyd!