Gweithle Iach, Gweithlu Iach, Busnes Iach
Nod rhaglen Cymru Iach ar Waith yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylchiadau gwaith iach, cymryd camau i wella iechyd a llesiant eu staff, rheoli absenoldebau oherwydd salwch yn dda ac ymgysylltu â gweithwyr yn effeithlon, a gallai hynny oll helpu i gyflawni ystod o ganlyniadau busnes a sefydliadol cadarnhaol.
Mae Rhaglen Cymru Iach ar Waith yn:
- Cynnig cymorth, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai, gwybodaeth ac arweiniad ynghylch cyngor iechyd.
- Gweithredu cynllun gwobrau am ddim i gyflogwyr yng Nghymru, wrth gynnig fframwaith i wella iechyd a llesiant gweithwyr, a gwobrwyo cyflogwyr sy’n cymryd camau rhagweithiol i wneud hynny.
- Cyfrannu at nodau tymor byr a thymor hir cyflogwyr, a’u hategu.
- Anfon neges bwerus, yn fewnol ac yn allanol, bod cyflogwyr yn ymrwymo i greu amgylchedd gwaith gwell.
- Cefnogi cyflogwyr i ddatblygu polisïau ac ymgymryd â chamau gweithredu wedi’u cynllunio i hyrwyddo gweithluoedd hapusach ac iachach.
- Ceisio hyrwyddo cyfathrebiadau a thrafodaethau agored drwy godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd a llesiant a lleihau stigma.
- Wedi’i gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Model Cyflwyno Cymru Iach ar Waith Newydd
Mae’r pandemig wedi creu cyfleoedd yn ogystal â chyflwyno heriau ar gyfer ein gwaith gyda chyflogwyr, gan gynnwys newid cyflym tuag at ddulliau rhithwir o gyflwyno a gweithio, yn ogystal â mwy o bwyslais ar iechyd a llesiant staff nag erioed.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu model cyflwyno newydd i fodloni anghenion cyflogwyr o bob maint ac o bob sector yng Nghymru, yn ogystal â gofynion byd gwaith newidiol. Bydd y model cyflwyno Cymru Iach ar Waith newydd, a fydd yn lansio yn 2022, yn cynnwys offer asesu anghenion ar-lein ac offer rhithiol a fydd yn ein helpu i gyrraedd rhagor o fusnesau yng Nghymru.
Pam mae iechyd a llesiant yn y gwaith yn bwysig?
Mae cyflogwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at iechyd a llesiant y gweithlu, oherwydd:
- Mae gweithwyr yn treulio nifer fawr o’u hamser yn y gwaith.
- Mae modd atal y 2 achos mwyaf cyffredin o absenoldeb hirdymor gweithwyr yn y DU:
- Problemau cyhyrysgerbydol
- Cyflyrau iechyd meddwl
- Yn y DU, cafodd 119 miliwn o ddiwrnodau eu colli oherwydd absenoldeb salwch yn 2020 (y lefelau isaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1995, ond noder, mae’r nifer hwn wedi’i effeithio gan weithwyr ffyrlo).
- Mae iechyd meddwl gwael yn costio biliynau i gyflogwyr y DU bob blwyddyn, gyda phresenoliaeth yn cael yr effaith fwyaf ar ddiffyg cynhyrchedd.
Pam ddylai cyflogwyr gymryd rhan?
Mae’r Sefydliad Siartredig Datblygu Proffesiynol (CIPD, 2020) yn nodi:
“Mae diwylliant o lesiant, wedi'i yrru gan reolaeth bobl, yn dda i'ch gweithwyr ac yn dda i'ch busnes. Mae’n gwneud y gweithle yn fwy cynhyrchiol, deniadol ac yn lle mwy cymdeithasol gyfrifol i weithio.”
Bydd ymrwymo i iechyd a llesiant yn rhoi hwb i enw da cyflogwr, gan arwain at well profiad wrth recriwtio staff a thalent newydd, yn ogystal ag ymgysylltiad da â gweithwyr a gwell cyfraddau cadw.
Bydd gweithiwr sy’n teimlo bod ei gyflogwr yn cefnogi ei iechyd a’i llesiant yn rhagweithiol yn:
- Teimlo ei werth fel gweithiwr.
- Profi gwell lefelau o forâl, ysgogiad a chynhyrchiant.
- Profi llai o gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch.
- Yn fwy parod i aros gyda sefydliad, ac felly’n cadw sgiliau a phrofiad gwerthfawr yn ogystal â lleihau cyfraddau trosiant staff a chostau recriwtio cysylltiedig.
- Bod yn rhan o weithlu mwy ymgysylltiol a fydd yn cydweithio’n effeithlon.
- Mwynhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, sydd yn ei dro, yn galluogi’r sefydliad i ffynnu.
Cymhwystra
Mae unrhyw gyflogwr yng Nghymru sy'n cyflogi o leiaf 1 gweithiwr yn gymwys i ymuno â’r rhaglen, am ddim. Rydym yn croesawu cyflogwyr o bob maint ac o unrhyw sector i gymryd rhan gyda Cymru Iach ar Waith.
5 ffordd o ddod i’n hadnabod ni...
- Ewch i'n gwefan: www.healthyworkingwales.wales.nhs.uk
- Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter: @Healthywork_HWW ; Facebook: @HealthyWorkingWales ; Linkedin: @Cymru Iach Ar Waith / Healthy Working Wales
- Gwrandewch ar eich podlediad, YouTube
- E-bostiwch ni: Workplacehealth@wales.nhs.uk
- Tanysgrifiwch i’n e-fwletin misol i gael diweddariadau rheolaidd!