Mae Covid-19 wedi effeithio ar fywydau, llesiant corfforol ac iechyd meddwl ledled y byd. Yn y cyfnodau anodd hyn, mae gweithleoedd a'u gweithluoedd wedi addasu a datblygu er mwyn sicrhau parhad a gwytnwch.

Aeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ati i roi gwahoddiad i ymgeiswyr gyflwyno eu mentrau i'r categorïau canlynol er mwyn helpu i hyrwyddo a dathlu'r gwelliannau a'r arloesiadau sydd wedi'u datblygu yn sgil pandemig Covid-19.

Cymeradwyaeth - Enillwyr

Tystysgrif - Cymeradwyaeth Uchel

Bydd y Cymeradwyaethau hyn yn canolbwyntio ar y deg testun canlynol sy'n berthnasol i weithleoedd:

  1.     Iechyd meddwl
  2.     Iechyd corfforol
  3.     Mesuriadau ataliol
  4.     Dychwelyd i'r gwaith
  5.     Gweithio gartref
  6.     Cyfathrebu/defnydd o TG
  7.     Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  8.     Cynaliadwyedd
  9.     Arloesedd
  10.     Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant