Mae Natur a Ni yn cynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol. Y nod yw datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y flwyddyn 2050 ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud cyn 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad. Mae Natur a Ni am annog pobl i feddwl am yr amgylchedd yr hoffent ei weld yn y dyfodol – a’i adael ar ôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni eisiau gwybod sut mae pobl yn teimlo am natur a sut hoffen nhw i berthynas cymdeithas â natur newid. Rydyn ni hefyd eisiau helpu pobl i feddwl am y newidiadau y gallwn ni i gyd eu mabwysiadu ein hunain i warchod natur a'r amgylchedd.
Wedi’i lansio ar 17 Chwefror ac yn para 10 wythnos, cafodd pobl ar hyd a lled Cymru y cyfle i lenwi arolwg Natur a Ni, ymuno â gweminarau rhyngweithiol, a gwirfoddoli am grwpiau ffocws ar-lein. Cynhaliwyd cyfres o weithdai i randdeiliaid hefyd ym mis Mawrth ac Ebrill. Mae tudalen Rhannwch fy Ngweledigaeth, ble gallwch rannu negeseuon, barddoniaeth, delweddau a fideos, yn fyw o hyd ar y wefan hon.
Mae’r tîm y tu ôl i Natur a Ni yn adolygu canlyniadau’r sgwrs genedlaethol ar hyn o bryd ac yn llunio adroddiad ar gam cyntaf y prosiect. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Natur a Ni, yna sicrhewch eich bod wedi rhoi eich manylion ar ein Tudalen Gofrestru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hwyluso’r sgwrs genedlaethol. Ni yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol yng Nghymru, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang. Rydym eisiau clywed gan bobl Cymru am eu barn ar ddyfodol ein hamgylchedd naturiol, fel y gallwn helpu i ymhelaethu ar eich barn, ac adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru.