Pennyn â brand Natur a Ni CNC: pa fath o ddyfodol ydym ni ei eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol. Cofrestrwch heddiw ar gyfer un o’n digwyddiadau cenedlaethol. Lleisiwch eich barn, llenwch arolwg Natur a Ni. Noddir gan Lywodraeth Cymru

Mae Natur a Ni yn cynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol. Y nod yw datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer 2050 ac ystyried y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud wrth baratoi ar gyfer 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.  

Gofynnom i bobl yng Nghymru, “pa ddyfodol ydych chi eisiau ar gyfer yr amgylchedd naturiol?" A dyma oedd eu hymateb: 

Yn 2050, pan fydd cymdeithas a natur yn ffynnu gyda’i gilydd, bydd...

  • Pobl a’r Llywodraeth yn ymrwymo ar y cyd i warchod yr amgylchedd naturiol.

  • Arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn helpu’r cyhoedd i gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau am fyd natur. 

  • Rhannu gwybodaeth yn helpu pobl i ddeall sut mae byd natur yn effeithio ar eu bywydau, a’r camau y gallan nhw eu cymryd i helpu i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol. 

  • Mynediad eang i fyd natur yn helpu pobl ledled Cymru i fyw bywydau hapus ac iach. 

  • Opsiynau gwyrddach ar gyfer trafnidiaeth ac ynni yn galluogi mwy o bobl i wneud dewisiadau ecogyfeillgar yn eu bywydau bob dydd. 

  • Rheoli tir yn gynaliadwy yn helpu cymunedau i brynu bwyd lleol a theimlo cysylltiad â thir Cymru. 

I ddarllen yr adroddiadau llawn, gweler y dolenni ar waelod y dudalen. 

 

Dywedodd pobl fod mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur mor bwysig bod angen ymrwymiad ar y cyd ar draws pleidiau gwleidyddol a phob rhan o gymdeithas. 

Dylai’r ymrwymiad hwn gynnwys ffyrdd o wella’r amgylchedd, gan ganolbwyntio ar integreiddio natur i’n bywydau bob dydd.

“…mae angen i’r llywodraeth rannu ei chynllun i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol. Bydd hyn yn egluro sut y gallwn helpu i amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion sydd mewn perygl ac adfer ble maent yn byw”.

Mynegodd pobl yr awydd i fod yn rhan o benderfyniadau mawr am natur. Nodwyd bod arweinyddiaeth gref o bob rhan o’r Llywodraeth yn ffordd y gellid cyflawni hyn. 

“…mae angen i lywodraeth ar bob lefel gynnwys pobl yn rhan o’r drafodaeth a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth glir yn hytrach na buddiannau plaid wleidyddol a buddiannau breintiedig eraill. Bydd hyn yn rhoi mwy o rym i’r cyhoedd ac yn sicrhau bod y llywodraeth yn mabwysiadu’r ymagwedd orau at natur”.

Teimlai pobl nad ydym yn gwybod digon am y ffordd y mae ein bywydau bob dydd a natur wedi’u hymgysylltu. Dywedodd y cyfranogwyr y byddai gwybodaeth am ba gamau y dylid eu cymryd a fyddai’n llesol ac nid yn niweidiol i fyd natur yn cael eu rhannu’n agored rhwng cymunedau ac ar draws pob grŵp oedran yn y dyfodol. 

“…bydd gwybodaeth glir a hygyrch yn amlygu’r gwahanol ffyrdd y gall dinasyddion ymateb. Bydd hyn yn helpu dinasyddion i wybod pa gamau y gallant eu cymryd i helpu natur a chymdeithas i ffynnu.”

I lawer o bobl, roedd eu cysylltiad â byd natur yn gysylltiedig â phrofiadau cadarnhaol o fod yn yr awyr agored, a manteision hynny, boed yn rhoi ystyriaeth i iechyd meddwl, cael mynediad i fannau gwyrdd, neu anadlu’r aer glân. Ond cydnabuwyd nad yw pawb yn cael yr un cyfleoedd i brofi byd natur.

“Mae angen mwy o fynediad cyfartal i fyd natur ar gymdeithas Cymru, ac mae angen gwneud ei hamgylchedd yn llai llygredig fel bod pawb yn gallu elwa o fyd natur. Bydd hyn yn gwella iechyd meddwl a chorfforol pobl yng Nghymru”.

Roedd pobl yn cydnabod rhai systemau allweddol yng Nghymru sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi dewisiadau sy’n helpu byd natur i ffynnu, yn enwedig trafnidiaeth, ynni, bwyd a gwastraff. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl i bobl wneud penderfyniadau os nad oes dewis, neu os yw’r dewisiadau’n gyfyngedig, yn anfforddiadwy neu’n anneniadol. 

“Mae angen i ni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, technolegau ynni adnewyddadwy a rheoli gwastraff, yn ogystal â lleihau effaith anghydraddoldebau rhwng pobl a’u cymunedau. Bydd hyn yn rhoi mynediad mwy cyfartal i ddewisiadau ffordd o fyw gwyrddach i bobl ledled Cymru.” 

Cydnabuwyd bod mynd i’r afael â’r her o sut rydym yn tyfu ein bwyd ac o ble rydym yn ei gael yn rhywbeth a allai gefnogi Cymru’r dyfodol, lle mae natur a chymdeithas yn ffynnu gyda’i gilydd. Roedd pobl yn gweld hwn yn gyfle i ddatblygu gwell cysylltiad rhwng pobl a thir Cymru. 

“…mae angen i’r llywodraeth ar bob lefel helpu i wneud ffermio’n fwy cynaliadwy a gwneud bwyd lleol yn fforddiadwy. Bydd hyn yn helpu pobl i brynu mwy o fwyd lleol a chynaliadwy ac adfer byd natur.” 

Mae adroddiad sy’n crynhoi sut y daethpwyd i’r casgliadau hyn ar gael isod:

Atodiadau adrodd

Atodiad 1Atodiad 2Atodiad 3