Canfyddiadau cam 2 baner

Cyhoeddwyd Adroddiad Cam 2 Natur a Ni ym mis Ionawr 2023. Mae’n crynhoi canfyddiadau ail gam y sgwrs genedlaethol ar ba ddyfodol rydym yn awyddus i’w sicrhau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Tynnodd Cam 1 Natur a Ni sylw at bryderon sydd gan bobl am yr amgylchedd naturiol, eu dyheadau ynghylch sut allai dyfodol yr amgylchedd naturiol edrych a sut mae angen i gymdeithas newid. Gallwch fynd at adroddiad cam 1 drwy glicio ‘Adroddiad cam 1’ ar far brig y ddewislen

Nod Cam 2 Natur a Ni oedd mynd i'r afael â'r bylchau yn y cynulleidfaoedd a oedd yn gysylltiedig â cham 1. Gwnaeth hyn drwy ddigwyddiadau cyhoeddus wedi'u targedu mewn cymunedau lleol a thrwy gynnal grwpiau ffocws gyda grwpiau penodol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Profodd Cam 2 y dehongliad o ganfyddiadau cam 1 gyda phobl fu’n cymryd rhan yn yr arolwg, a chasglodd naratifau a phrofiadau personol i helpu i lunio’r weledigaeth.

Datblygwyd naw datganiad ar gyfer y ‘dyfodol’ sy’n cynrychioli’r prif themâu a gododd o’r dadansoddiad thematig o ganfyddiadau cam 1. Defnyddiwyd y datganiadau hyn i archwilio senarios posibl ar gyfer y dyfodol a'u heffaith ar fywyd bob dydd, ac i nodi rhwystrau a chymhellion cyffredin ar gyfer gwahanol weledigaethau o'r dyfodol ar draws grwpiau.

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn tynnu ar farn:

-  286 o ymatebwyr i’r arolwg mewn sioeau teithiol

-  305 o ymatebwyr i’r arolwg ar-lein (cyfranogwyr cam 1)

-  98 o gyfranogwyr mewn grwpiau ffocws

Darllenwch y 9 datganiad a chanfyddiadau llawn yn adroddiad Cam 2.

 

Mae’r sgyrsiau ynglŷn â’r 9 datganiad a oedd yn sylfaen i’r adroddiad hefyd wedi cael eu recordio mewn 9 clip sain gan yr artistiaid sain annibynnol, Storyworks UK. I glywed barn pobl a’r hyn yr oedd ganddynt i’w ddweud am y datganiadau, gallwch wrando ar y clipiau sain isod.​

Cliciwch yma am drawsgrifiad o'r holl weithiau sain​

 

Prif ganfyddiadau 

Mae’r adroddiad yn dangos bod y dull gweithredu yn effeithiol o ran cynnwys unigolion na fyddent fel arall o bosibl wedi cyfrannu at y sgwrs genedlaethol. Dyma ei brif ganfyddiadau:

  • Roedd cyfranogwyr cam un ar y cyfan yn gefnogol i'r newidiadau a nodwyd ar draws y naw datganiad ar gyfer y dyfodol, ac ychydig iawn o ymatebwyr oedd yn meddwl bod bylchau yn y themâu dan sylw. Mae hyn yn awgrymu bod y garfan hon yn cytuno â'n dehongliad o ganfyddiadau cam un. 

  • Prin iawn oedd y bobl a gwestiynodd y budd y byddai’r naw datganiad hyn yn ei roi i fyd natur.

  • Roedd pobl a gymerodd ran mewn digwyddiadau sioe deithiol a thrwy gymryd rhan mewn grwpiau ffocws hefyd ar y cyfan yn gefnogol i'r newidiadau a ddisgrifiwyd ar draws y naw datganiad. Fodd bynnag, cafwyd rhai gwahaniaethau ac nid oedd yr awydd i fyw yn y senarios hynny lawn mor gryf. Mae’r gwahaniaethau rhwng y carfannau ymchwil yn awgrymu bod y bobl a gymerodd ran gyda Natur a Ni yng ngham 1 yn fwy ymroddedig i faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd na’r rhai a gymerodd ran yn y sgwrs am y tro cyntaf yn ystod cam dau.

  • Gwelwyd y consensws mwyaf ar draws pob grŵp mewn perthynas â datganiadau am y dyfodol ynghylch ‘mannau gwyrdd’, ‘siopa am bethau’, ‘ailgylchu’ a ‘phrynu bwyd’, tra bod ‘defnyddio ynni’ a ‘rheoli tir’ wedi creu safbwyntiau cryfach a chymysg. Nodwyd y datganiadau ‘gwyliau gartref’ a ‘theithio o gwmpas’ fel mathau o ddyfodol lle byddai pobl yn llai tebygol o weld eu hunain yn byw.

 

Ymhlith rhai o’r rhwystrau a’r cymhellion cyffredin sy’n cyfrif am farn ac ymatebion cyfranwyr roedd:

  • yr hyn y mae pobl yn teimlo bod ganddynt reolaeth drosto

  • a ydynt eisoes yn arfer yr ymddygiad dymunol

  • a yw newid yn ymarferol ac yn realistig

  • pa newid fydd yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf

  • lle mae'r angen mwyaf am weithredu brys

  • cost a fforddiadwyedd newid

  • anghyfleustra ac anhygyrchedd newid

At ei gilydd, mae’r themâu a gwmpesir gan y naw datganiad yn darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer sgyrsiau am ddyfodol sy’n natur bositif. Bydd Natur a Ni yn myfyrio ar bob un o'r dylanwadau cyffredin uchod ac yn mynd i'r afael â nhw er mwyn gwella'r ffordd y caiff y weledigaeth a'r themâu eu cyfathrebu â'r cyhoedd.

Beth nesa’

Rydym nawr yn gweithio gyda Chynulliad y Dinasyddion i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru yn 2050, a’r camau sydd eu hangen er mwyn mynd â ni yno. Bydd Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob rhan o Gymru a bydd yn cyfarfod dros dair sesiwn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth er mwyn ateb y cwestiynau canlynol:

  • Sut olwg sydd ar y dyfodol pan fydd cymdeithas a natur yn ffynnu gyda'i gilydd?

  • Pa fanteision fydden ni'n eu gweld pe bai hyn yn digwydd?

  • Beth sydd angen bod yn wahanol i’r hyn ydyw heddiw?

  • A pha gamau sydd angen i ni yng Nghymru eu cymryd i gyrraedd dyfodol ffyniannus?

Rydym wedi bod yn gweithio gyda grŵp o sefydliadau o bob rhan o Gymru i lunio’r Cynulliad, i gytuno ar ffocws y gwaith hwn, ac i sicrhau bod ystod gytbwys o dystiolaeth yn cael ei chyflwyno. Bydd Cynulliad y Dinasyddion yn adolygu canfyddiadau Natur a Ni a gwaith ehangach er mwyn helpu i lunio’r weledigaeth a rennir. Bydd y weledigaeth hon a rennir wedyn yn llywio sut rydym ni ac eraill yn cydweithio, gan ddarparu pwynt cwmpawd er mwyn i ni gyd weithio tuag ato, ac ysbrydoli camau gweithredu ar ran natur ac ar gyfer pobl nawr ac i’r dyfodol.

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiadau Natur a Ni yn y dyfodol, e-bostiwch naturani@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio